Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth y DU wrthi’n cynnal ymgynghoriad ynghylch a ddylid datganoli’r dreth stamp i Gymru.  Daw hyn yn dilyn argymhelliad gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ('y Comisiwn Silk') yn ei adroddiad 'Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru', a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012:

"A.3. Bod Treth Tir y Doll Stamp yn cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru a bod Gweinidogion Cymru yn cael rheolaeth dros bob agwedd ar y dreth yng Nghymru. Dylid didynnu rhan benodedig o’r grant bloc yn unol â chytundeb ar ei gwerth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ôl rhoi ystyriaeth ddyladwy i natur gyfnewidiol y derbyniadau."

Heddiw rwyf wedi cyflwyno tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad, a byddaf yn cyhoeddi’r papur ar wefan Llywodraeth Cymru yn.

Bydd ymgynghoriad Llywodraeth y DU yn dod i ben ddydd Mawrth 10 Medi.  Rwy’n annog busnesau yng Nghymru sydd â buddiant yn nyfodol y dreth stamp i rannu’u barn.

Mae dogfen yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth y DU. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i sicrhau bod Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf.  Os bydd Aelodau am i mi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau ar hyn pan ddaw'r Cynulliad yn ôl byddwn yn ddigon parod i wneud hynny.