Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mod wedi gofyn i Lywodraeth y DU gynnwys pwerau i Weinidogion Cymru mewn Bil Amaethyddiaeth sydd wedi'i gyflwyno i Senedd y DU. Mae'r Bil yn sylfaen gyfreithiol i roi cymorth i ffermwyr yn y dyfodol, ar ôl Brexit, wrth inni bontio i ffwrdd o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.  Pwerau dros dro yw'r pwerau sy'n cael eu cymryd i Weinidogion Cymru, tan llunio ein deddfwriaeth sylfaenol ein hunain, i gynllunio system ar gyfer Cymru sy'n gweithio dros amaethyddiaeth Cymru, diwydiannau gwledig a'n cymunedau. Mae’r darpariaethau ar gyfer Cymru wedi’u cynnwys mewn Atodlen ar wahân, fel bod modd i unrhyw newidiadau y mae’r Cynulliad Cenedlaethol am eu gweld i Weinidogion Cymru gael eu gwneud yn rhwyd.

'Brexit a'n Tir' yw ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cymorth i ffermwyr yn y dyfodol wedi Brexit. Mae ein tir yn rhoi bywoliaeth, yn cynnal cymunedau ac yn creu'r adnoddau naturiol hanfodol rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Mae'r bobl sy'n gofalu amdano yn gwneud cyfraniad anferthol i'n gwlad. Rhaid i ni barhau i'w cefnogi. Fodd bynnag, mae angen i'r ffordd yr ydym yn rhoi'r cymorth newid wedi Brexit.

Mae darpariaethau Cymru yn y Bil Amaethyddiaeth, ar y cyfan, yn adlewyrchu y rhai sy'n cael eu cynnig gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr.  Mae'r rhain yn cynnwys:

• Pwerau ariannol newydd ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol
• Casglu a rhannu data
• Pwerau i ymyrryd o dan amodau eithriadol yn y farchnad
• Gosod safonau marchnata
• Addasu cyfraith yr UE sydd wedi'i chadw sy'n gysylltiedig â chyllido, rheoli a monitro taliadau i ffermwyr, gan gynnwys Cynllun Taliad Sylfaenol PAC

Mae nifer fechan o bwerau ychwanegol yn cael eu cymryd yng Nghymru. Yn ogystal â nifer fechan o wahaniaethau technegol, mae ein pwerau hefyd yn cynnwys pwyslais ar gefnogi cymunedau a busnesau gwledig sy'n rhan o gadwyni cyflenwi.

Ar y cyfan, mae'r rhain yn bwerau galluogi sy'n darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru, er mwyn iddynt lunio rheoliadau penodol i Gymru i Lywodraeth Cymru graffu arnynt. Ni fydd y rheoliadau yn cael eu llunio tan i'r broses o ddatblygu polisïau ddod i ben. Yn "Brexit a'n Tir" bu inni ymrwymo i gyflwyno papur gwyn yn ystod gwanwyn 2019.

Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn rhoi amlinelliad inni o sut y bydd Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig yn cydweithio i greu llyfr statud sy'n gweithio'n iawn ledled y DU pan fyddwn yn gadael yr UE. Cyflwyno y Bil Amaethyddiaeth yw'r prawf cyntaf o'r egwyddorion yn y Cytundeb cydweithio, cydweithredu a pharch i ddatganoli.

Mae'r datganiad ar y cyd heddiw rhwng y DU a Llywodraeth Cymru ar gymorth i amaethyddiaeth yn dangos y cysylltiad sylweddol a'r cydweithio sy'n digwydd i sefydlu fframwaith gyffredin o fewn y DU er mwyn cefnogi amaethyddiaeth. Mae'r datganiad yn datgan yn glir y bydd rhan fwyaf o'r fframwaith hwn yn cael ei reoli drwy gydweithio rhynglywodraethol ar wahân i ddeddfwriaeth. O ganlyniad, ni fydd Cymru yn cael ei chyfyngu wrth greu cynlluniau newydd a bydd yn gallu gweithredu mewn dull sydd orau i Gymru.

Er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil ar y cyfan fel y mae wedi'i ddrafftio, mae dau fater sydd heb eu datrys yn ein barn ni: yn gyntaf, darpariaethau sy'n gysylltiedig â Chytundeb Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar Amaethyddiaeth; ac, yn ail, y Lefi Cig Coch.

Mae rheoli Cytundeb y DU ar Amaethyddiaeth yn Sefydliad Masnach y Byd yn fater y mae Llywodraeth y DU yn credu sydd wedi'i gadw yn ôl. O ran y gyfraith, nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn pob agwedd ar y cymal fel mater a gedwir yn ôl, a ph'un bynnag, mae perthynas gref ac amlwg rhwng y pwerau WTO a chyfrifoldebau datganoledig ar gymorth amaethyddol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau cytundeb pwysig gan Lywodraeth y DU i ymrwymo yn y Senedd i ymgynghori â'r Gweinyddiaethau Datganoledig ar reoliadau sy'n gysylltiedig â'r WTO. Rydym hefyd wedi cytuno i ddod o hyd i broses ar gyfer sut y bydd rheoliadau o'r fath yn cael eu llunio. Fodd bynnag, mae ymrwymiad i ymgynghori yn annigonol o ystyried pwysigrwydd y mater hwn. Byddwn felly yn parhau i weithio tuag at gytundeb sy'n sicrhau bod cysylltiad priodol gyda safbwyntiau Gweinidogion Cymru a gweinyddiaethau eraill ac ystyriaeth ohonynt.

Ar y Lefi Cig Coch, mae'n siomedigaeth nad yw pwerau sy'n gysylltiedig ag ail-ddosbarthu y Lefi Cig Coch ar wyneb y Bil wrth ei gyflwyno. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl diwygiad gan Lywodraeth y DU i gywiro hyn cyn gynted â phosib. Mae'n hollbwysig bod y diwydiant cig coch yn gallu cael mynediad i gyllid i baratoi yn y ffordd orau ar gyfer cyfleoedd Brexit ac i ymateb i'r newid anochel. O ystyried bod angen newid deddfwriaethol i fod yn sail i unrhyw ddulliau y cytunwyd arnynt i ddod o hyd i ateb yn y dyfodol, mae'r Bil Amaethyddiaeth - y cyntaf i gael ei gyflwyno yn y Senedd am rai degawdau - yn amlwg yn gyfle i ddatrys y mater hwn.

Yn gyffredinol, mae cyflwyno'r Bil Amaethyddiaeth yn gam pwysig yn ein proses o bontio i system newydd o roi cymorth i ffermwyr. Mae'n rhoi pwerau a hyblygrwydd newydd sylweddol i Gymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddatrys y pryderon eraill ac i gynnig cyngor i'r Cynulliad ar gydsyniad deddfwriaethol yng ngoleuni'r gwaith hwn.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.