Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y cyrff adolygu cyflogau annibynnol ar gyfer 2024-25. 

Bydd cannoedd o filoedd o weithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru mewn proffesiynau a gwmpesir gan gyrff adolygu cyflogau annibynnol yn derbyn dyfarniad cyflog sy’n uwch na chwyddiant. Mae hyn yn adlewyrchu'r gwerth rydym ni, a’r cyhoedd, yn ei roi ar y gwaith maent yn ei wneud, a'r rôl hanfodol y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei chwarae ym mywydau beunyddiol pobl.

Golyga hyn:

  • Bydd athrawon yn derbyn dyfarniad cyflog o 5.5%. Mae hyn yn uwch na'r 4.3% a argymhellwyd gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, sy'n adlewyrchu'r egwyddor “dim niwed”.
  • Bydd staff y GIG ar delerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid yn derbyn dyfarniad cyflog o 5.5%.
  • Bydd meddygon a deintyddion yn derbyn dyfarniad cyflog o 6%, gyda £1,000 ychwanegol ar gyfer meddygon iau. Mae’r 6% a argymhellir ar gyfer meddygon teulu a deintyddion annibynnol sydd wedi’u contractio yn amodol ar newidiadau contract cyffredinol ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol a gwasanaethau deintyddol cyffredinol, yn unol â threfniadau blaenorol.

Rydym hefyd wedi cytuno ar gynnydd cyflog hyd at gyfartaledd o 5% i staff sy'n gweithio mewn amryw o sefydliadau datganoledig ac yng ngwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. 

Bydd y dyfarniadau cyflog hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn pecynnau cyflog cyn gynted â phosibl. 

Rwy'n falch y gallwn wneud y dyfarniadau hyn yn erbyn cefnlen yr hinsawdd ariannol bresennol. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa ariannol bresennol yn dal i fod yn heriol iawn, a gwyddom ein bod yn wynebu penderfyniadau anodd wrth inni baratoi ar gyfer Cyllideb 2025-26. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Pe bai’r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.