Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, a sefydlwyd flwyddyn yn ôl o dan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, wedi ystyried cyfraddau isafswm cyflog newydd ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru. Mae hefyd wedi ystyried sgiliau a datblygu gyrfaoedd o fewn y sector

Yr wyf yn ddiolchgar  fod y Panel wedi paratoi gorchymyn cyflogau newydd mewn drafft a wedi ei gyflwyno i mi ei gymeradwyo.  Yr wyf wedi cyfeirio’r gorchymyn yn ôl i'r panel i ystyried, cyn ei ailgyflwyno i mi. Hyd nes y daw  unrhyw orchymyn cyflogau newydd i rym, bydd gweithwyr amaethyddol yng Nghymru yn parhau i fod yn ddarostyngedig i delerau ac amodau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016.

Mae’r cynnydd yn y cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn y  DU ar 1 Ebrill yn effeithio ar gyflogau rhai gweithwyr fferm yng Nghymru. Mae'r tabl isod yn crynhoi'r newidiadau mewn perthynas â gweithwyr amaethyddol a gyflogir yng ngraddau 1 a 2



 Gradd  Isafswm cyfradd fesul awr o 1 Ebrill 2017
 Gradd 1:  25 a drosodd:      £7.50 
 Gradd 1:  21-24:        £7.05
 Gradd 1:  16-20:    £6.72
 Gradd 2: 25 oed a drosodd:   £7.50 



Bydd yr holl gategorïau a graddau eraill o weithwyr yn amodol ar y cyfraddau a bennir yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016. Bydd y cyfraddau ar gyfer prentisiaid hefyd yn aros yn ddigyfnewid. Mae rhagor o wybodaeth am y cyflogau hynny ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/agricultural-sector-wales-act-2014/interim-order/?skip=1&lang=cy