Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Fel y nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu, swyddi a thwf yw prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ym marn Llywodraeth Cymru, swyddi teg, cyfiawn a chynaliadwy, sy’n cydnabod pa mor bwysig yw gwaith i incwm, iechyd a lles, yw’r sylfaen orau ar gyfer adeiladu economi gref yng Nghymru. Dyma’r math o Gymru yr ydym yn dymuno i’n plant ei hetifeddu. 


Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y Cyflog Byw fel un o gyfres o gamau cadarnhaol i helpu i leddfu’r problemau a achosir gan gyflogau isel a thlodi mewn gwaith yng Nghymru, sef dwy o’r prif elfennau sy’n gyfrifol am dlodi plant ac sy’n cael effaith niweidiol hirdymor ar ganlyniadau i blant.    


Adlewyrcha hyn ddyhead Llywodraeth Cymru i barhau i fod yn gyflogwr Cyflog Byw. Mae’n dangos hefyd maint ei hymrwymiad i arwain ac annog cyflogwyr eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â’r trydydd sector, i ystyried dod yn gyflogwyr Cyflog Byw. 


Gallai’r manteision sy’n gysylltiedig â’r Cyflog Byw gynnwys gorchfygu tlodi mewn gwaith, atgyfnerthu negeseuon cadarnhaol am waith fel llwybr allan o dlodi, hyrwyddo urddas a thegwch yn y gwaith a hybu economïau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod ei rôl ei hun fel prif gyflogwr yng Nghymru yn strategol bwysig i ddangos y potensial sydd ar gyfer sefydlu Cyflog Byw i Gymru. Bydd yn parhau i weithio i arwain, cefnogi a llywio trafodaeth ar y mater hwn, gan barchu’r pecynnau cyflogaeth sy’n bod eisoes a rôl Undebau Llafur partner i arfer y rhyddid i fargeinio ar y cyd.


Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw Cyflog Byw, ar ei ben ei hun, yn mynd i ddatrys yr heriau a wynebir yn sgil tlodi ac mae wedi nodi pryderon ynglŷn â chostau a goblygiadau gweithredu’r cynllun, yn enwedig o ystyried yr heriau economaidd sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hefyd pa mor bwysig yw’r pecyn cyflogaeth cyfan fel rhan o’r agenda hon.  


Sefydlwyd grŵp cynghori at y diben hwn gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn dod â holl gyngor ei phartneriaid cymdeithasol ynghyd mewn digwyddiad ar y Cyflog Byw yng Nghymru. Caiff y digwyddiad hwnnw ei gynnal yn 2013.