Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Roedd talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yn un o’n prif addewidion yn y Rhaglen Lywodraethu. Rydym yn awr yn cymryd y camau angenrheidiol i wireddu hynny.
Drwy gydol y pandemig, mae pob un ohonom wedi gweld y cyfraniad hanfodol y mae gweithwyr gofal cymdeithasol wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud, bob dydd at ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Serch hynny, mae darparwyr gofal cymdeithasol yn dal i wynebu heriau sylweddol o ran recriwtio a chadw pobl sydd â'r sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â'r rolau pwysig hyn.
Y llynedd, gwnaethom gynnull ynghyd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol teirochrog i ystyried beth arall y gellir ei wneud i wella telerau ac amodau cyflogaeth yn y sector hynod gymhleth hwn. Ynghyd â phroffesiynoli, mae gwella telerau ac amodau'r gweithlu yn gam pwysig tuag at wella recriwtio a chadw staff. Rydym yn credu’n bendant mai gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, drwy'r Fforwm, yw'r ffordd orau o sicrhau newid cynaliadwy yn y sector hwn. Roeddem yn falch o dderbyn cyngor y Fforwm ar weithredu ymrwymiad y Cyflog Byw Gwirioneddol ac mae'r cyngor hwn wedi helpu i lywio ein penderfyniadau ar y camau nesaf y byddwn yn eu cymryd yn awr.
Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei gyfrifo’n annibynnol gan y Resolution Foundation ac yn cael ei oruchwylio gan y Comisiwn Cyflog Byw, fel rhan o broses flynyddol. Mae cyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer y DU (ac eithrio Llundain), a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd eleni, yn £9.90 yr awr.
Bydd y cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol yn berthnasol i weithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref, yn y gwasanaethau i oedolion a phlant. I'r graddau y cânt eu hariannu drwy Daliad Uniongyrchol, rydym hefyd yn bwriadu cynnig y cynnydd hwn i Gynorthwywyr Personol. Wrth ystyried cwmpas yr ymrwymiad, gofynnodd y Fforwm inni ei ehangu ymhellach na'r grwpiau hyn o weithwyr, ac ystyriasom y cyngor hwn yn ofalus. Fodd bynnag, gweithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yw ein hymrwymiad, ac rydym yn credu mai'r gweithlu cofrestredig a Chynorthwywyr Personol yw'r lle iawn i ddechrau. Mae disgwyliadau ychwanegol yn cael eu gosod ar weithwyr cofrestredig, er enghraifft, mewn perthynas â dysgu a datblygu. Er nad ydynt wedi eu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar hyn o bryd, mae Cynorthwywyr Personol yn aml yn cyflawni rôl debyg i weithwyr gofal cartref. Oherwydd hyn a'u rôl bwysig o ran sicrhau llais a rheolaeth i'r rheini sy'n derbyn gofal a chymorth, byddant hwy hefyd yn dod o fewn cwmpas yr ymrwymiad.
Rydym wedi darparu cyllid, drwy'r setliad llywodraeth leol, i alluogi awdurdodau lleol i ddechrau gweithredu cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol o fis Ebrill ymlaen. Fodd bynnag, mae hwn yn sector cymhleth iawn gyda channoedd o wahanol gyflogwyr. Bydd y cyllid yn cymryd amser i fynd drwy brosesau comisiynu’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd cyn iddo gyrraedd pocedi’r gweithwyr. Rydym am weld hynny'n digwydd cyn gynted â phosibl ond ni fydd pob gweithiwr cymwys yn cael y taliad o fis Ebrill. Bydd hyn yn cymryd amser i'w weithredu. Mae'n ymrwymiad hirdymor a bydd angen inni sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn ofalus ac mewn ffordd nad yw'n ansefydlogi'r sector.
Mae ein gwaith ni’n dangos y bydd cost yr ymrwymiad hwn ar draws prosesau comisiynu awdurdodau lleol a byrddau iechyd oddeutu £43.2m. Mae £6.7m o’r gost gyffredinol honno ar gyfer gofal a gomisiynir gan fyrddau iechyd, a chaiff ei dalu ar wahân i'n cyllideb iechyd. Mae’r swm cyffredinol hefyd yn cynnwys cyfraniad tuag at y gost o gynnal gwahaniaethau ar ben isaf y graddfeydd cyflog. Bydd hyn yn helpu cyflogwyr i barhau i dalu tâl atodol i weithwyr sy'n ymgymryd â rhai dyletswyddau ychwanegol, neu sy'n cael eu talu uwchlaw'r isafswm statudol, oherwydd eu bod wedi bod yn gwasanaethu am gyfnod hirach, er enghraifft.
Rydym wedi gweithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, drwy Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, i nodi'r gost o weithredu'r ymrwymiad hwn. Byddwn yn monitro cost gweithredu'n agos a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chomisiynwyr gofal cymdeithasol, ac eraill wrth inni gynllunio ein camau gweithredu.
Er mwyn i’r ymrwymiad hwn lwyddo, bydd raid i’r holl randdeiliaid, gan gynnwys cyflogwyr, ddod ynghyd yn awr i gydweithio ar y camau gweithredu.
Byddwn yn mynd ati yn awr i weithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a darparwyr i ddatblygu canllawiau ar gyfer yr holl randdeiliaid ar fanylion y dull gweithredu. Byddwn yn sefydlu nifer o weithgorau i ddatblygu'r canllawiau, a byddwn yn rhoi’r diweddaraf i’r Senedd unwaith yn rhagor pan fydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau.
Caiff y datganiad hwn ei ryddhau yn ystod y toriad er mwyn hysbysu’r aelodau. Pe bai’r aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.