Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw mae’n bleser gen i gyhoeddi fy mod yn sefydlu is-gwmni di-ddifidend, dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru, fel rhan allweddol o’n gwaith yn cyflenwi system drafnidiaeth integredig fwy effeithiol yng Nghymru. Ar y dechrau, bydd y cwmni hwn yn canolbwyntio ar ddarparu cyngor ac arbenigedd technegol i symud y prosiectau sy’n gysylltiedig â’r Metro yn eu blaen, gan bennu gofynion a chynnal proses gaffael nesaf Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a Phrosiect Trydaneiddio a Moderneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.

Bydd Bwrdd Cynghori Strategol newydd yn arwain gwaith y cwmni a’m hadran ar y prosiectau hyn. Bydd y Bwrdd yn cynnwys arbenigwyr o’r radd flaenaf yn y diwydiant a chanddynt arbenigedd mewn trafnidiaeth integredig a pheirianneg. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda nifer o unigolion sydd â’r potensial i fod yn Aelodau o’r Bwrdd Cynghori Strategol. Byddaf yn cyhoeddi enwau aelodau’r Bwrdd maes o law.

Bydd y cwmni newydd hwn yn ein galluogi i gael yr arbenigedd technegol a masnachol sydd ei angen arnom i atgyfnerthu gwaith fy adran wrth inni fynd ati i gyflenwi’r prosiectau cyffrous hyn. Bydd yn canolbwyntio yn bennaf ar y tri phrosiect rheilffordd/trafnidiaeth integredig ond bydd hefyd yn rhoi cyngor fel y bo’n briodol ar ymyriadau sylweddol eraill ym maes trafnidiaeth. Er bydd y cwmni yn canolbwyntio i ddechrau ar roi cyngor, bydd modd ymestyn ei gylch gwaith a’i rôl fel y bo’n briodol i gyflenwi agweddau allweddol ar drafnidiaeth. Mae’n unol felly â’r ymrwymiad i “archwilio dichonoldeb rhedeg masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau ar sail di-ddifidend, fel Glas Cymru.”