Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gymeradwyo pedwar cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghymru, i ddisodli cyllid yr UE yr oedd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud penderfyniadau yn ei gylch ac a oedd yn destun gwaith craffu gan y Senedd. Mae hyn yn golygu, gyda llai na phedwar mis yn weddill yn y flwyddyn ariannol hon, y gall dyraniadau cyllid ar gyfer 2022-23 yn awr gael eu rhyddhau i awdurdodau lleol Cymru i wario ar brosiectau sy'n ymwneud â chymunedau a llefydd, busnesau lleol, a phobl a sgiliau, prosiectau a ddylai fod wedi dechrau eisoes. Nid yw’n debygol y bydd y gyllideb flynyddol gyfan yn cael ei gwario yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon.

Mae cyfanswm dyraniad y Gronfa Ffyniant Gyffredin o £585 miliwn i Gymru £1.1 biliwn yn llai o gymharu â chyllid UE. Mae'r toriad sylweddol hwn yn y cyllid wedi'i ddwysáu gan sawl achos o oedi ers cyhoeddi'r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyntaf yn 2017. Mewn cyferbyniad â hynny, roedd Llywodraeth Cymru yn barod i ddechrau rhaglen fuddsoddi ôl-UE bron i ddwy flynedd yn ôl ym mis Ionawr 2021. Erbyn hynny roeddem eisoes wedi gweithio'n ddwys gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'n partneriaid yng Nghymru i greu'r model cryfaf posibl ar gyfer Cymru.  Mae’n bwysig cofio bod y ffigur o £585 miliwn ar gyfer Cymru cyn y brigdorri gwerth £101 miliwn a osodwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer y rhaglen ‘Lluosi’ y maent wedi’u chreu ym maes datganoledig rhifedd oedolion.

O ganlyniad uniongyrchol i’r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â’r Gronfa, mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn cael eu hanwybyddu ar fater datganoledig. Nid oes gan brifysgolion, colegau, y trydydd sector na busnesau chwaith fynediad uniongyrchol at gyllid, sy’n golygu bod llawer o'r sectorau hyn bellach yn nodi eu bod yn diswyddo ac yn dod â chynlluniau hanfodol i ben.

Yn sgil yr argyfwng economaidd a'r prinder cyllid cyhoeddus, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ailystyried cyfeiriad y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y dyfodol. Mae hynny’n cynnwys rôl cydbenderfynu i Weinidogion Cymru a chefnogaeth i raglenni hollbwysig yng Nghymru a oedd yn arfer cael eu hariannu gan yr UE. Mae rhai o’r rhaglenni hyn yn hanfodol i gefnogi cynhyrchiant a thwf, megis Busnes Cymru, prentisiaethau, y Banc Datblygu a'n rhaglenni arloesi.

Dylai'r cyhoeddiad hwn hefyd gael ei ystyried yng nghyd-destun cyllideb Llywodraeth Cymru a allai fod yn werth hyd at £1 biliwn yn llai mewn termau real yn 2023-24 yn unig na’r hyn a ddisgwyliwyd y llynedd. Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhan o system sy'n tanseilio datganoli ac nad yw’n rhoi fawr o sylw i anghenion partneriaid yng Nghymru.

Mae'r holl waith o ymdrin â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi bod yn anhrefnus. Er i'r Gronfa gael ei chyhoeddi gyntaf yn 2017, cafodd y Gronfa ei rhoi at ei gilydd yn frysiog yn gynharach eleni. Mae hyn wedi rhoi straen enfawr ar lywodraeth leol i ddatblygu prosiectau a rhoi gweithdrefnau gweinyddol a rhai llywodraethu ar waith o fewn amserlenni anymarferol. Nid oes ceiniog o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi’i gwario yng Nghymru hyd yma.

Rwyf i a’m cyd Weinidogion wedi codi'r problemau sy'n cael eu creu gyda llawer o Weinidogion y DU a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae trafodaeth sylweddol ar y mater hwn hefyd wedi'i threfnu ar gyfer cyfarfod nesaf Gweinidogion Cyllid y DU yn y flwyddyn newydd.

Er nad oes gan Lywodraeth Cymru fynediad at y Gronfa Ffyniant Gyffredin na rôl gwneud penderfyniadau o ran sut y bydd y Gronfa'n cael ei chyflwyno yng Nghymru, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yng Nghymru i liniaru cynifer â phosibl o'r canlyniadau.

Mae'r Fforwm Strategol ar gyfer Buddsoddiad Rhanbarthol, sy’n cael ei gadeirio gan Huw Irranca-Davies AS, hefyd yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd fel y gall llywodraeth leol a rhanddeiliaid rannu gwybodaeth a gwersi a ddysgir. 

I gloi, hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad diweddar ar drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ymateb i argymhellion y Pwyllgor. Rwy'n edrych ymlaen at graffu ymhellach ar y mater hwn yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.