Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers inni ddechrau derbyn cyflenwadau o frechlynnau COVID-19 ddechrau mis Rhagfyr y llynedd, rydym wedi bod yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod cymaint o bobl yn cael eu brechu cyn gynted â phosibl.  Roedd ein Cynllun Brechu yn nodi’n glir fy mwriad y dylai pawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), gael cynnig dos cyntaf o frechlyn erbyn canol mis Chwefror.  Fel y nodir yn fy natganiad ysgrifenedig ar 19 Ionawr, rydym yn gwneud cynnydd da ac mae mwy na 175,000 o bobl bellach wedi cael eu brechu.

Yn ein Cynllun, dywedwyd yn glir bod gwireddu ein dyheadau’n dibynnu i raddau helaeth ar dderbyn cyflenwad teg o frechlynnau o fewn amser teg. Mae'r datganiad hwn yn egluro'r sefyllfa o ran y cyflenwad a gafwyd hyd yma, sut mae'r brechlyn yn cael ei ddosbarthu i GIG Cymru, a'r modd yr ydym yn dibynnu ar gyflenwadau o frechlynnau yn cael eu darparu i’r DU yn y dyfodol.

Ddydd Gwener 15 Ionawr, cadarnhaodd Pfizer fod y broses gynhyrchu yn ei ganolfan gynhyrchu  Ewropeaidd yng Ngwlad Belg yn cael ei atal dros dro.  Bydd hyn yn arwain at lai o gyflenwadau o frechlynnau i Ewrop a'r DU rhwng nawr a mis Mawrth.  Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym hefyd wedi gweld oedi cyn rhyddhau llwyth disgwyliedig o frechlyn AstraZeneca, a hynny’n lleihau'r cyflenwadau a ragwelwyd ar gyfer Cymru ac yn achosi oedi yn ein cynlluniau i ehangu ein rhaglen frechu yn sylweddol drwy harneisio arbenigedd meddygon teulu, nyrsys a fferyllwyr ym maes gofal sylfaenol.  Mae'r gadwyn cyflenwi brechlynnau yn gymhleth ac mae ein cynlluniau'n cael eu haddasu'n gyson yn sgil newidiadau i faint cyflenwadau ac amserlenni cyflenwi – pob un ohonynt â’r potensial i effeithio ar gyflawni'r cerrig milltir yn ein Strategaeth.

Ers 7 Ionawr, mae 138,300 dos o frechlyn AstraZeneca wedi’u cyflenwi i Gymru a’u dosbarthu’n uniongyrchol i ganolfannau brechu, ysbytai a meddygfeydd i'w defnyddio ar unwaith.  Rwy'n gwybod bod llawer o feddygon, nyrsys, fferyllwyr a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill yn dal yn awyddus i gyfrannu at y rhaglen. Rwy’n hyderus y byddant i gyd yn chwarae rhan allweddol wrth i gyflenwadau o frechlyn AstraZeneca gynyddu.

Mae brechlyn Pfizer BioNTech wedi achosi heriau logistaidd gwahanol iawn.  Mae gan Gymru arbenigedd mewn storio a dosbarthu cynhyrchion y mae angen eu trin ar dymheredd isel iawn. Yn wahanol i rannau eraill o'r DU, rydym yn dal ac yn rheoli ein cyfran o'r brechlyn a ddarperir i'r DU yng nghyfleusterau arbenigol y GIG yma yng Nghymru. Pan gaiff ei ddosbarthu i ganolfannau brechu, rhaid defnyddio'r holl frechlyn o fewn 5 diwrnod.  Rhaid gwaredu unrhyw frechlyn nad yw'n cael ei ddefnyddio erbyn hynny.  Rhaid inni wneud pob ymdrech i sicrhau na chaiff dos ei wastraffu. Dyna pam mae’r byrddau iechyd yn cael brechlynnau mewn niferoedd sy’n cyfateb i gapasiti eu canolfannau brechu a nifer yr apwyntiadau sydd wedi’u trefnu.

Roedd fy natganiad ysgrifenedig ar 19 Ionawr yn amlinellu’r model cyfunol sydd ar waith.  Ei nod yw:

  • darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cwblhau'r broses o gyflenwi brechlynnau mor gyflym â phosibl;
  • sicrhau diogelwch;
  • diwallu anghenion y brechlyn yn unol â’i nodweddion;
  • bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl, ac
  • yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod pob rhan o’r wlad a phob cymuned yn cael cyfle cyfartal i gael y brechlyn.

Mae nifer a chapasiti’r canolfannau brechu yng Nghymru yn cynyddu ac mae cyflenwadau'n cael eu cynyddu yn unol â hynny.

Bellach mae gennym y gallu i weinyddu dros 60,000 dos o frechlyn Pfizer BioNTech bob wythnos . O'r wythnos sy'n dechrau ar 8 Chwefror, mae ein cynlluniau'n dibynnu ar gyflenwad pellach o'r brechlyn yn cyrraedd y DU.

Mae cyflwyno brechlyn Pfizer BioNTech wedi bod yn her na welwyd ei thebyg o'r blaen ond yn un y mae'r GIG wedi'i goresgyn yn rhagorol. Nid yn unig y mae gan y brechlyn ofynion storio a chludo unigryw; mae'r broses o’i ddanfon wedi bod yn ysbeidiol; ni chyrhaeddodd y cyflenwad diweddaraf o dros 90,000 dos tan 23 Rhagfyr, a hyd at 31 Rhagfyr, roedd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn gosod amod, wrth awdurdodi, y dylai 50% o'r dosau a dderbyniwyd gael eu cadw wrth gefn.  Roedd hyn er mwyn sicrhau bod ail ddos ar gael i bawb a frechwyd. Er ein bod bellach yn rhoi blaenoriaeth i roi dos cyntaf i bobl, mae'r rhai sydd wedi’u brechu eisoes yn disgwyl, yn hollol deg, inni gymryd camau i sicrhau bod cyflenwadau ar gael ar gyfer eu hail ddos.  Mae nifer sylweddol o ail ddosau wedi'u trefnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 22 Chwefror.

Ers dechrau mis Ionawr, rydym wedi addasu ein cynlluniau i gyd-fynd â safbwynt diwygiedig yr MHRA ac mae hynny wedi ein galluogi i roi cymaint a phosibl o ddosau cyntaf i bobl yn y grwpiau blaenoriaeth.  Erbyn diwedd yr wythnos hon, bydd holl gyflenwad AstraZeneca, dros 60% o'r brechlyn Pfizer BioNTech a dderbyniwyd eisoes, a thri chwarter yr holl ddosau o frechlynnau y mae Cymru wedi’u derbyn, wedi’u rhoi i ganolfannau brechu, ysbytai a meddygon teulu. 

Mae ein cynlluniau i frechu grwpiau blaenoriaeth yn parhau ar y trywydd iawn; ond fel y dywedais, maent ac fe fyddant yn parhau i ddibynnu ar sicrwydd y cyflenwad o frechlynnau.