Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi, wedi pedair blynedd o dymor pum mlynedd Llywodraeth hwn, bod cyfanswm o 7,560 o gartrefi gwag hirdymor bellach yn cael eu defnyddio unwaith eto. Mae hyn yn gryn lwyddiant sy’n rhagori ar y targed uchelgeisiol o 5,000 yr oeddem wedi ei bennu; ac un o’r rhesymau pennaf y tu ôl i’r llwyddiant hwn yw ein cynllun benthyciadau arloesol ar gyfer eiddo gwag, Troi Tai’n Gartrefi.

Mae’r Dangosyddion Strategol Cenedlaethol  diweddaraf ar gyfer Awdurdodau Lleol yn dangos llwyddiant y camau a gymerwyd i sicrhau bod adeiladau gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto, a hynny yn ystod y tymor hwn. Mae ein cynllun Troi Tai’n Gartrefi wedi bod yn hanfodol i lwyddiant yr ymgyrch, nid yn unig o ran yr hyn a gyflawnwyd, ond hefyd yr effaith ehangach o sbarduno gweithredu ar lefelau lleol a rhanbarthol. Gwelwyd cynnydd yn nifer blynyddol y cartrefi gwag hirdymor sy’n cael eu defnyddio eto, o 1,076 yn 2011-12 (sef y flwyddyn cyn lansio’r cynllun), i 3,089 yn ei drydedd flwyddyn, 2014-15.

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad terfynol y gwerthusiad tair blynedd annibynnol o’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi. Mae’r adroddiad hwnnw’n pwysleisio llwyddiant y cynllun, a’r holl waith da y mae wedi ei gyflawni o ran tynnu sylw at y problemau y mae adeiladau gwag yn gallu eu hachosi, a’r cymorth sydd ar gael i’w troi’n adeiladau sy’n gallu helpu i fodloni’r galw mawr am gartrefi.

Comisiynwyd y gwerthusiad ar ddechrau’r cynllun, ac fe’i cynhaliwyd gan y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Ranbarthol, Sheffield Hallam. Rwy’n ddiolchgar i’r ganolfan am y gwaith y mae wedi ei gyflawni, ac i weld copi o’r adroddiad, ewch ar-lein.

Mae’r Adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwella’r cynllun, sydd eisoes yn un llwyddiannus. Rwy’n croesawu’r argymhellion hyn, a byddaf yn eu hystyried yng ngoleuni fy mwriad i weld y cynllun yn parhau â’i waith rhagorol, a hefyd yr angen i ehangu a datblygu’r rôl y mae’n ei chwarae yn ein hymdrechion i gynyddu nifer y tai sydd ar gael yn lleol.

Mae trawsnewid dros 7,500 o adeiladau gwag yn gartrefi i bobl ledled Cymru yn llwyddiant ysgubol, ac yn llwyddiant yr ydym yn falch iawn ohono. Mawr yw ein diolch i’r awdurdodau lleol am eu holl waith caled a’r modd y maent wedi cydweithio. Mae’r egni a’r penderfyniad y mae’r swyddogion a’r aelodau etholedig wedi eu dangos, wrth weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, wedi chwarae rhan anhepgor yn yr ymgyrch hon. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi rhagori ar yr ymrwymiad a wnaed yn ein Rhaglen Lywodraethu, a hynny gyda thros flwyddyn i fynd. Mae adeiladau gwag yn adnodd sy’n wastraff o ystyried yr angen i ddarparu cartrefi i bobl; ac mae adeiladau sy’n dadfeilio yn creu hagrwch yn ein cymunedau, ac yn gallu peri cynnydd yn nifer yr achosion o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yn ogystal â’r £20m sydd wedi ei roi i Awdurdodau Lleol, mae £10m ychwanegol wedi ei neilltuo ar eu cyfer eleni er mwyn sicrhau bod y momentwm a’r llwyddiant yn parhau. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos yn glir ein hymrwymiad parhaus i’r sector tai yng Nghymru ac i’r angen i fodloni’r galw am dai; ac wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, rydym hefyd yn rhoi hwb i gyflogaeth yn y diwydiant adeiladu ledled Cymru gyfan.