Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Yn fy Natganiad diwethaf, esboniais ein bod wedi adfywio’n hymwneud â’r newid yn yr hinsawdd a’n blaenoriaethau yn hynny o beth. Rwyf yn awr am ddisgrifio sut ydym am gyflawni’r blaenoriaethau hynny’n well a sicrhau bod yna lwybr clir inni ddatgarboneiddio yng Nghymru.
Fel yr esboniais ym mis Hydref, mae’n hanfodol llunio trefniadau llywodraethu clir i hybu cyfranogaeth ac ymgysylltu. Roedd yn bleser cael ymuno â’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn gynharach yr wythnos hon ar gyfer lansio’r adroddiad Y Gymru a Garem fel rhan o’n gwaith ar Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Un o gasgliadau mwyaf trawiadol yr adroddiad hwnnw yw mor glir y mae cymunedau yng Nghymru yn gweld bod y newid yn yr hinsawdd yn fater o flaenoriaeth sy’n creu’r cyd-destun ar gyfer ein dyfodol.
Fel ymateb i’r gyfranogaeth honno a’r drafodaeth am Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rwyf wedi cryfhau lle newid hinsawdd yn rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac yn y prif Nodau Llesiant gan ategu darpariaethau Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol. O gael cymeradwyaeth y Cynulliad, bydd hyn rhoi fframwaith llywodraethu cryf inni a chyn bwysiced, yn cadarnhau hefyd nad yw’r newid yn yr hinsawdd yn bwnc polisi ynysig ond yn fater sy’n dylanwadu ar bopeth a wnawn. Dyna un o’r rhesymau pam dw i’n credu bod y Bil yn un tyngedfennol i Gymru.
Byddaf hefyd yn cyflwyno Bil yr Amgylchedd er mwyn creu proses statudol fodern ar gyfer rheoli’n hadnoddau naturiol mewn ffordd gydlynol a mwy cynaliadwy. Rydym wrthi’n cau pen mwdwl Bil yr Amgylchedd ac mae Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar ei daith trwy’r Cynulliad. Byddaf am ddweud mwy am hyn yn y man, ond bydd Bil yr Amgylchedd yn ategu’r agweddau sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd ym Mil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac ar ben hynny, bydd yn creu sylfaen statudol glir ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n cydnabod yn llawn bwysigrwydd canolog hinsawdd sy’n newid. Bydd yn gweithio hefyd â’r fframwaith ym Mil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer pennu dangosyddion a cherrig milltir yn unol â’r nodau, i sicrhau bod ffordd glir ar ein cyfer i weithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a fydd yn llywio buddsoddi a chyflawni yn y dyfodol.
Gyda her mor ddifrifol â’r newid yn yr hinsawdd a chyfle mor fawr â thwf gwyrdd, rwy’n credu bod tryloywder yn angenrheidiol. Yn ogystal â chael yr hawl i wybod sut mae eu llywodraeth a’u hadrannau’n cyflawni, mae gan bobl Cymru yr hawl i wybod sut mae eu hardaloedd a’u gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni.
Fel llywodraeth, bwriadwn felly symud at ddefnyddio cyllidebau carbon sy’n glir ynghylch faint y dylai sectorau gwahanol ei gyfrannu a phwy sy’n atebol. O wneud hynny, ein nod yw pennu llwybr clir yng nghyd-destun ein hymrwymiadau o dan ddeddfwriaeth y DU a’r UE, i sicrhau o leiaf 80% o ostyngiad yn ein hallyriadau erbyn 2050. Yn ogystal â sicrhau tryloywder, bydd llwybr clir ar gyfer datgarboneiddio yn rhoi sicrwydd ac eglurder ar gyfer buddsoddi. Byddaf yn datblygu’r cyllidebau hyn ar sail cyngor arbenigol, yn enwedig gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, i sicrhau ein bod yn lleihau’n hallyriadau mewn ffordd sy’n cynyddu’r buddiannau economaidd a chymdeithasol i Gymru yn ogystal â chyflawni’n hymrwymiadau.
Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi amcangyfrif faint y manteision a ddaw i economi’r DU o gymryd camau buan i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, sef rhwng £100 a £200 biliwn erbyn 2030. Fe’m trawyd gan y graddau y mae busnesau eisoes yn sylweddoli cyfleoedd economaidd twf gwyrdd.
Rwyf yn awr am weld y sector cyhoeddus yn rhoi’r un arweiniad. O weithredu nawr, cawn arbedion ar adeg o wasgu ar gyllid y sector cyhoeddus a thrwy gefnogi twf gwyrdd, gallwn greu swyddi a’n gwneud yn llai agored i beryglon yr hinsawdd. Dyna pam ein bod eisoes wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi i achub gweithgarwch yn y maes hwn a’n bod yn cefnogi’r ymrwymiad hwn trwy greu Cronfa Twf Gwyrdd. Rydym am barhau hefyd i ddangos arweiniad ar ein hystâd ein hunain. Rydym yn gweithio felly i ostwng allyriadau ymhellach ar ben y 27% rydym eisoes wedi’i gyflawni a byddwn yn ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfrif effaith carbon net y gostyngiadau hyn a datblygu cynllun i fod yn garbon positif yn y dyfodol.
Ar gyfer y sector cyhoeddus, bydd hinsawdd sy’n newid yn parhau i beryglu’r union wasanaethau rydym yn eu darparu ac mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu gwrthsefyll y peryglon hynny (cydnerthedd). Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod pob penderfyniad a wnawn mewn meysydd allweddol fel asesu cynigion buddsoddi yn unol â blaenoriaethau’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, yn ystyried ein gallu i wrthsefyll newid hinsoddol. Fel rhan allweddol o’r gwaith hwn, byddwn yn sicrhau, wrth fuddsoddi mewn meysydd fel tai cymdeithasol, ein bod yn ystyried y peryglon y mae hinsawdd sy’n newid yn eu creu er mwyn sicrhau bod pobl yn ddiogel yn y tymor hir yn eu cartrefi.
Mae hinsawdd sy’n newid yn cael effaith anghymharus o fawr ar aelwydydd mwyaf bregus Cymru ac rydym eisoes wedi bod yn gweithio â Chronfa Joseph Rowntree i ddeall yr effeithiau hyn. Mae hyn yn rhan o bwyslais y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi ar ddatblygu cymunedau cydnerth. Ein hamcan yw helpu i ddiogelu pobl sydd fwyaf agored i newid rhag effeithiau hinsawdd sy’n newid, gan fynd â mentrau newydd yn eu blaen a gwneud yn fawr o lwyddiant cynlluniau fel arbed.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn dangos bod angen inni i gyd gyda’n gilydd wneud mwy ym mhob sector i gyflawni i daro’n targedau. Byddwn fel Llywodraeth yn parhau i fanteisio ar y cyfle i ganolbwyntio ar y meysydd lle gallwn gael y dylanwad mwyaf, ond mae’n bwysig cofio ein bod hefyd yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU ac ar yr UE yn y meysydd hynny lle nad oes gennym reolaeth arnynt.
Wrth i’r trafodaethau nes ymlaen eleni nesáu, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i weithio ar y cyd â phartneriaid yn y DU, Ewrop a gweddill y byd i sicrhau cytundeb rhyngwladol newydd. Mae gan Gymru hanes o roi arweiniad ar lefel ryngwladol eisoes. Ni oedd y Genedl Fasnach Deg gyntaf yn y byd ac un o’r gwledydd cyntaf i wneud datblygu cynaliadwy yn rhan ganolog o’i chyfansoddiad. Rydym yn nawr yn cyflwyno deddfwriaeth sy’n cael ei chydnabod trwy’r byd fel deddfwriaeth sy’n torri tir newydd ac rydym yn gweithredu mewn ffordd sy’n cydnabod ein heffaith a’n cyfrifoldebau rhyngwladol o ran y newid yn yr hinsawdd. Trwy raglen Cymru o blaid Affrica, mae’n bleser gennyf ddweud ein bod wedi plannu dau miliwn o goed yn Uganda ar y cyd â phrosiect Maint Cymru sydd hefyd wedi diogelu dau miliwn hectar o goedwig drofannol.
Wrth baratoi ar gyfer y trafodaethau ym Mharis, mae gennym gyfle byw iawn i roi arweiniad, ar sail ein gweithredoedd yma a thramor. Wrth ymrwymo ym mis Medi i Gytundeb Gwladwriaethau a Rhanbarthau y Grŵp Hinsawdd ar adrodd ar y newid yn yr hinsawdd, mae Cymru’n dangos rhagor o arweiniad rhyngwladol gyda 15 Llywodraeth arall – mae hynny gyfwerth â 142 miliwn o bobl sydd wedi ymrwymo i weithredu ac i adrodd tryloyw ar newid hinsawdd.
Mae hyn yn dangos bod gennym y gallu i helpu i sbarduno gweithredu rhyngwladol a galwaf ar bob sector yng Nghymru i ymuno â ni.
Byddaf yn falch o gael diweddaru’r Cynulliad ar ein gwaith trwy Ddatganiad Llafar.