Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol y bu’n rhaid inni wneud y penderfyniad anodd, yn sgil dechrau pandemig COVID-19 yn gynnar yn 2020, i rewi’r rhan fwyaf o’r gwaith ar weithredu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

Gwnaed y penderfyniad i rewi’r gwaith oherwydd yr angen i Weinidogion a swyddogion ganolbwyntio ar anghenion brys y dydd, yn ogystal â’r angen i bob rhan o’r system gyfiawnder roi blaenoriaeth i lunio a chyflawni cynlluniau i sicrhau bod cyfiawnder yn parhau i gael ei ddarparu ar y sail fwyaf diogel posibl.

Yn benodol, nid yw hi wedi bod yn bosibl gwneud cynnydd sylweddol ar y trafodaethau manwl â Llywodraeth y DU sy’n angenrheidiol i ystyried holl ganfyddiadau’r adroddiad yn briodol. Fodd bynnag, croesawaf y cadarnhad gan yr Arglwydd Ganghellor yn bersonol i Weinidogion ac yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd hon fod Llywodraeth y DU yn dal i fod yn fodlon trafod yr adroddiad.

Fodd bynnag, nid yw COVID-19 wedi dileu’r angen i Lywodraeth Cymru gyflawni swyddogaethau ym maes cyfiawnder. Yn wir, mae’r pandemig wedi’i gwneud yn ofynnol inni ymgysylltu’n agosach nag erioed i sicrhau bod gwahanol elfennau o’r system gyfiawnder yn parhau i weithredu’n ddiogel. Er enghraifft, gwnaethom weithio i sicrhau bod gan dribiwnlysoedd megis Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru a Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yr awdurdod deddfwriaethol a’r capasiti gweinyddol i reoli achosion o bell. Gwnaethom hefyd drefniadau wrth gefn i alluogi gwrandawiadau i gael eu cynnal gerbron un barnwr neu i ddelio â gwrandawiadau yn seiliedig ar y papurau. Hyd yma, nid oes angen wedi bod am y trefniadau wrth gefn hyn. Rwy’n ddiolchgar i aelodau, staff a defnyddwyr y tribiwnlysoedd sydd wedi addasu mor effeithiol i’r trefniadau newydd ar gyfer darparu cyfiawnder.

Yn benodol, mae ein cyfrifoldeb i ddiogelu iechyd y cyhoedd hefyd wedi arwain at greu troseddau mewn deddfwriaeth ddatganoledig ar gyfradd ddigynsail. Wrth greu’r troseddau hyn, rydym wedi gorfod ystyried ar fyrder beth ddylem ei wneud ynglŷn â materion megis lefelau priodol dirwyon, dulliau gorfodi a phwerau’r rhai sy’n gorfodi cyfraith trosedd yng Nghymru yng ngoleuni ein rhwymedigaethau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae’r broses hon wedi tanlinellu ymhellach y diffygion yn y setliad datganoli presennol a nodwyd gan Gomisiwn Thomas. Wrth ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth ystyried y materion a nodir yn y paragraff uchod, mae’r pandemig wedi dangos yr anallu i ryddhau swyddogaethau cyfiawnder o swyddogaethau eraill y Llywodraeth mewn modd synhwyrol. Yn gryno, mae wedi dangos yr angen clir i Lywodraeth Cymru ddatblygu polisïau cyfiawnder er nad yw’n derbyn unrhyw gyllid at y diben hwnnw ac nad oes ganddi, yn aml, yr wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â pherfformiad yn y system gyfiawnder.

Mae’r profiad o’r pandemig hefyd wedi dangos bod yr heddlu, llysoedd ac, yn bwysicaf oll, y cyhoedd yng Nghymru yn gallu deall a rheoli sefyllfaoedd lle mae cyfraith trosedd yn amrywio rhwng Cymru a Lloegr, yn groes i’r hyn y mae rhai sy’n amddiffyn y status quo wedi’i ddadlau yn flaenorol.

Felly, pe bai’n cael ei hailethol, byddai’r Llywodraeth hon yn ymgymryd â’r trafodaethau a addawyd ynglŷn ag Adroddiad Thomas, a’r ddadl y mae’n ei chyflwyno i ddatganoli swyddogaethau cyfiawnder.

Yn sgil yr angen parhaus i ystyried materion cyfiawnder, mae Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder, a gadeirir gan y Prif Weinidog, wedi parhau i gwrdd drwy gydol y pandemig.

Yn olaf, er nad ydym eto wedi ymgymryd â thrafodaethau â Llywodraeth y DU ynglŷn ag Adroddiad Thomas yn gyffredinol, pan oedd hi’n bosibl bwrw ymlaen ag eitemau penodol o fewn yr adroddiad, rydym wedi parhau i wneud hynny.

Er enghraifft, roeddem yn falch bod y Pwyllgor Rheolau Trefniadaeth Sifil y llynedd wedi cytuno i weithredu argymhelliad yr adroddiad y dylid ei gwneud yn ofynnol i heriau cyfraith gyhoeddus yn erbyn awdurdodau yng Nghymru gael eu cyflwyno yng Nghymru, ac i’r gwrandawiadau cysylltiedig fod yng Nghymru.

Bydd y Dirprwy Weinidog yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau yr wythnos nesaf ynglŷn â hynt y Glasbrintiau ar gyfer Troseddwyr sy’n Fenywod a Chyfiawnder Ieuenctid, sy’n cyfrannu tuag at wireddu’r argymhellion hynny gan Gomisiwn Thomas y mae modd ymgymryd â nhw o dan y setliad presennol.

Mae cynnydd sylweddol hefyd wedi’i wneud tuag at sefydlu safle peilot Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru. Roedd y cais gan Fwrdd Cyfiawnder Teuluol Lleol De-ddwyrain Cymru i gynnal prosiect peilot yn llwyddiannus ac mae gwaith cynllunio ar gyfer y prosiect bellach wedi dechrau cyn i’r gweithgarwch Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol ddechrau yn yr hydref.

Gallaf hefyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â chreu Cyngor Cyfraith Cymru. Argymhellodd Comisiwn Thomas y dylid sefydlu Cyngor y Gyfraith i fod yn “llais i Gymru’r gyfraith” – corff mantell a fyddai hefyd yn hyrwyddo cydweithredu ac yn darparu adnoddau a rennir ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn amgylchedd unigryw Cymru. Mae’n bwysig bod Cyngor y Gyfraith yn annibynnol oddi wrth y llywodraeth, ond ymrwymais i hwyluso ei sefydlu drwy ddod â darpar gyfranogwyr at ei gilydd a cheisio sicrhau ei fod yn cael ei sefydlu ar sylfaen gadarn a chynaliadwy.

Rwy’n falch iawn bod Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi cytuno y gall ei swyddfa yng Nghymru ddarparu’r cymorth ysgrifenyddiaeth angenrheidiol ar gyfer y Cyngor a hwyluso sefydlu’r Cyngor. Mae hyn yn gyfraniad pwysig at y sector yn ei gyfanrwydd, gan fynd y tu hwnt i’r cyfreithwyr y mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn eu cynrychioli, a bydd yn galluogi’r Cyngor i gwrdd, sefydlu ei gylch gorchwyl a’i ffyrdd o weithio ei hun, a gosod ei agenda ei hun. Rwy’n ddiolchgar i Gymdeithas y Cyfreithwyr, ac mae’r Llywodraeth yn edrych ymlaen at gydweithio â Chyngor Cyfraith newydd Cymru i ystyried ei gynigion er mwyn sicrhau sector cyfreithiol cadarn a chynaliadwy i Gymru.