Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n ysgrifennu i roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad fy mod wedi gwneud fy mhenderfyniad heddiw yn dilyn cyfeirio at Weinidogion Cymru cynllun iaith Gymraeg drafft Ofcom o dan adran 14 (2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Rwyf wedi hysbysu Ofcom a Comisiynydd y Gymraeg fy mod wedi arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14 (5) o Ddeddf 1993 ac wedi penderfynu ar delerau'r cynllun, sy'n cynnwys mesur i sicrhau y bydd Ofcom yn ystyried y Gymraeg wrth gyflawni ei swyddogaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau i'r cyhoedd.

Mae'r mesur yn darllen fel a ganlyn:

Byddwn ni [Ofcom] yn rhoi ystyriaeth briodol i’r defnydd o’r Gymraeg wrth gyflawni ein swyddogaethau sy’n ymwneud â gwasanaethau i’r cyhoedd.  Mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys:

paratoi a chyhoeddi ein Canllawiau Lleolrwydd, a

chyflawni ein swyddogaethau trwyddedu, mewn modd sy’n anelu at sicrhau bod deunydd lleol yn cael ei gynnwys mewn darllediadau trwyddedig, gan gynnwys deunydd sydd â chynnwys ieithyddol penodol a/neu’n cael ei gyflwyno mewn modd ieithyddol penodol a hynny, lle bo angen, drwy osod amodau ar y drwydded.

Rwyf wedi ystyried y mater hwn yn ofalus iawn wedi i mi dderbyn cyfrifoldeb am y Gymraeg yn dilyn ffurfio’r Llywodraeth newydd ym mis Mai 2011, gan ofyn am wybodaeth bellach gan Ofcom a Bwrdd yr Iaith Gymraeg ill dau. Rwyf yn fodlon y bydd Cynllun Iaith Gymraeg newydd Ofcom, gyda’r mesur hwn wedi ei gynnwys, yn briodol ac yn addas at y diben.