Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyfeiriwyd mater cynllun iaith OFCOM at Weinidogion Cymru o dan adran 14 o Ddeddf yr Iaith 1993 (Deddf 1993).  

Yr wyf heddiw wedi ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac Ofcom i hysbysu’r ddau barti fy mod wedi penderfynu arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14(4) o Ddeddf 1993 ac wedi gofyn i’r ddau barti geisio dod i gytundeb ynghylch telerau cynllun iaith Gymraeg Ofcom o fewn mis i ddyddiad y llythyr.

Os na ellir dod i gytundeb, mae’n fwriad gennyf arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14(5) o Ddeddf 1993 i osod cynllun sy’n cynnwys mesur wedi’i eirio’n briodol am yr ystyriaeth i’w rhoi gan Ofcom i’r Gymraeg wrth gyflawni ei swyddogaethau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd, yn gyffredinol yn ogystal ag fel agwedd ar “ddeunydd lleol” yn y Canllawiau Lleolrwydd.