Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan lansiodd Llywodraeth Cymru Argraffiad 10 o Bolisi Cynllunio Cymru (PCC) ym mis Rhagfyr 2018, gwnaeth hefyd gyhoeddi datganiad yn nodi ymrwymiad y Llywodraeth i egwyddorion creu lleoedd. Roedd y datganiad hwnnw hefyd yn dangos yn glir y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n fwy cadarn i sicrhau bod egwyddorion PCC yn cael eu rhoi ar waith.

Rwy’n cefnogi hyn yn llwyr ac yn benderfynol o sicrhau bod y system gynllunio yn creu lleoedd cynaliadwy o ansawdd da drwy ddull a arweinir gan gynllun.

I atgyfnerthu’r cyd-destun polisi a nodir yn Argraffiad 10 o PCC, rwyf wedi penderfynu diwygio’r darpariaethau mewn perthynas â “Datblygiad Preswyl Sylweddol” yng Nghyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Cymru) 2012 (Cyfarwyddyd 2012) a pharagraffau 16 i 18 o Gylchlythyr 07/12 Llywodraeth Cymru. Mae Cyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Preswyl Mawr) (Hysbysu) (Cymru) 2020 (Cyfarwyddyd 2020) a’r Canllawiau i’w gweld drwy’r ddolen hon:

Cyfeirio ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl mawr at Weinidogion Cymru (Cyfarwyddyd a Chylchlythyr 001/2020)

Bydd Cyfarwyddyd 2020 yn gymwys i geisiadau a wneir ar 13 Ionawr 2020 neu ar ôl hynny. Mae’n ofynnol dan y Cyfarwyddyd bod Gweinidogion Cymru yn cael gwybod am geisiadau a wneir ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ar gyfer unrhyw ddatblygiad preswyl arfaethedig sy’n fwy na 10 uned breswyl, neu ddatblygiad preswyl ar fwy na 0.5 hectar o dir, nad yw’n unol ag un neu ragor o ddarpariaethau’r cynllun datblygu sydd mewn grym ac nad yw’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei wrthod.

Mae’n hanfodol bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn cael eu llunio a’u hadolygu a bod eu dyraniadau yn cael eu cyflwyno yn unol â disgwyliadau cymunedol. Rwy’n poeni bod gormod o ddatblygiadau preswyl tybiannol ac anghynaladwy wedi’u cynnig y tu allan i gwmpas y Cynlluniau Datblygu Lleol a fabwysiadwyd a nod y Cyfarwyddyd hwn yw sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn ymwybodol o gynigion datblygu o’r fath.