Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn dilyn trafodaethau adeiladol â Chyngor Caerdydd, rwyf wedi llofnodi Cyfarwyddyd o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn nodi’r camau y bydd yr awdurdod yn eu cymryd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r terfynau statudol ar gyfer nitrogen deuocsid yn aer yr amgylchedd.
Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod camau cadarn ac effeithiol yn cael eu cymryd i wella ansawdd aer er budd iechyd y cyhoedd. Mae ein Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach yn cadarnhau ein huchelgais hirdymor i wella ansawdd aer, a’r camau rydym yn eu cymryd i gyflawni hyn. Bydd ein Bil Aer Glân yn cryfhau’r camau rydym eisoes yn eu cymryd i leihau allyriadau a chyflawni gwelliannau hanfodol i ansawdd aer, gan hybu cymunedau iachach ac amgylcheddau gwell.
Yn ein Cynllun Ansawdd Aer, rydym yn disgrifio’r camau rydym yn eu cymryd ar fyrder i sicrhau cydymffurfedd â therfynau statudol ar gyfer nitrogen deuocsid yn aer yr amgylchedd mewn sawl lleoliad yng Nghymru. Drwy’r cynllun, rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda Chyngor Caerdydd i fynd i’r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid yng nghanol y dref, gan ddarparu cyllid o fwy nag £19 miliwn ar gyfer pecyn uchelgeisiol o fesurau aer glân. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys cynllun seilwaith ar gyfer Heol y Castell sy’n darparu cysylltiadau teithio llesol a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwell ac yn lleihau mynediad i draffig cyffredinol.
Yng nghyd-destun diogelu iechyd y cyhoedd, mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu ailystyried ei gynllun ar gyfer Heol y Castell er mwyn sicrhau mai hwn yw’r dull cywir o hyd, a’i fod yn ddigon uchelgeisiol. Ym mis Mehefin y llynedd, penderfynodd y cyngor osod y cynllun a gymeradwywyd ar gyfer Heol y Castell ar sail dros dro, a gwneud rhagor o waith dadansoddi a modelu ar yr elfennau o’r cynllun sy’n ymwneud ag aer glân, tagfeydd, ac adfer ac adnewyddu’r ddinas.
Mae’r Cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Caerdydd roi cynllun seilwaith parhaol ar waith i sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â’r terfynau ar gyfer nitrogen deuocsid. Bydd yr awdurdod hefyd yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb arall ar gyfer opsiynau posibl y mae’n cynnig eu hystyried fel opsiynau amgen i’r cynllun a gymeradwywyd. Mae’r rhestr yn y Cyfarwyddyd yn nodi nifer o ofynion sy’n ymwneud â’r asesiad ychwanegol, yn cynnwys darparu cynigion cwmpasu cychwynnol a chynlluniau cychwynnol a therfynol yn unol ag amserlen briodol sy’n adlewyrchu natur frys ein rhaglen i sicrhau cydymffurfedd â therfynau nitrogen deuocsid. Bydd ein panel adolygu ansawdd aer annibynnol yn darparu swyddogaeth graffu arbenigol a chymorth drwy gydol y broses hon. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni gofynion y Cyfarwyddyd.
Wrth gynnal yr asesiad ychwanegol hwn, bydd Cyngor Caerdydd yn parhau i fonitro ansawdd yr aer yng nghanol y ddinas a chymryd camau pan fo angen i sicrhau bod y lefelau ar hyd Heol y Castell yn parhau i gydymffurfio.