Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Aethom i gyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 13 Medi.
Trafodwyd yr Adolygiad Annibynnol o'r Strategaeth Fwyd Genedlaethol a gynhaliwyd gan Henry Dimbleby a chytunwyd i gydweithio mewn meysydd a fyddai o fudd i'r DU gyfan.
Amlinellodd George Eustice AS, Ysgrifennydd Gwladol Defra, ganlyniad ymgynghoriad Defra ar olygu genynnau. Fe’i gwnaethom yn glir fod Llywodraeth Cymru o'r farn bod golygu genynnau yn addasu genetig a’i bod yn erbyn dadreoleiddio yn y maes hwn.
Trafodwyd y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Rhaglen Fframweithiau Cyffredin, archwiliadau ar y ffin a Chynllun y Taliad Sengl, cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer pysgodfeydd a Phartneriaeth Amaethyddol arfaethedig y DU.
Mae hysbysiad am y cyfarfod hwn ar gael ar wefan Llywodraeth y DU: https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs/