Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Tachwedd 2016, cynhaliais y cyfarfod pedairochrog cyntaf gyda fy nghydweithwyr gweinidogol ar draws y DU i drafod y broses o adael yr UE. Ers hynny, rydym wedi cwrdd yn rheolaidd fel grŵp sy'n cael ei adnabod bellach yn y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Mae'r cyfarfodydd hyn yn hanfodol i drafod, ac i ddod i gytundeb pan fo'n bosibl, ddulliau cynllunio a mesurau wrth gefn i helpu i liniaru'r effeithiau posibl yn sgil ymadawiad y DU â'r UE.

Yn y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 Mehefin, hoeliwyd sylw ar ein parodrwydd ar gyfer y posibilrwydd o ymadael heb gytundeb ar ddiwedd mis Hydref, sy'n dal i fod yn brif flaenoriaeth. Rwy'n pryderu nad yw busnesau, yn enwedig yn y gadwyn gyflenwi bwyd, yn ddigon parod ar gyfer Brexit o'r fath. Hefyd, gwnaethom drafod rhaglen o linynnau allweddol ein rhaglen waith hyd at ddiwedd 2019. Yn unol â’r arfer trafodwyd cyllid. Fodd bynnag, roedd y trafodaethau hyn yn gyfyngedig oherwydd absenoldeb y Gweinidog o Drysorlys y DU er y gofynnwyd iddo sawl tro i fod yn bresennol. Byddaf yn parhau i bwyso am hyn yn y cyfarfod nesaf ym mis Medi.

Mae communiqué ynghylch y cyfarfod hwn i'w weld ar wefan Llywodraeth y DU.

https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs.

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 16 Medi.