Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roeddwn yn bresennol yn y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 9 Medi yn Llundain. Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig newydd, Theresa Villiers AS.

Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar amrywiol effaith yr ansicrwydd parhaus ynghylch pryd a sut y bydd y DU yn ymadael â'r UE, ac yn benodol effaith ymadawiad drychinebus heb gytundeb. Roeddem hefyd yn trafod effeithiau addoedi Senedd y DU ar y rhaglen ddeddfwriaethol a threfniadau cyllido i fynd i'r afael ag effeithiau dim cytundeb a chymorth hirdymor i ffermwyr a  physgotwyr. Cytunwyd ar bwysigrwydd parhau i gydweithio ar y materion hyn a materion eraill sy'n gysylltiedig â gadael yr UE. .

Mae datganiad ynghylch y cyfarfod hwn i'w weld ar wefan Llywodraeth y DU. https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs.