Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi
Yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, rwy'n hysbysu'r Aelodau fy mod wedi mynychu cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE ar 11 Medi 2023.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Leo Docherty AS, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Ewrop yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO). Hefyd yn bresennol roedd Angus Robertson MSP, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant. Roedd uwch swyddog o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon yn bresennol fel arsylwr.
Cynhaliwyd y cyfarfod i baratoi ar gyfer yr ystod o gyfarfodydd rhwng y DU a'r UE o fewn fframwaith y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a drefnwyd ar gyfer y misoedd sy'n weddill o 2023 a chyfarfod nesaf y DU-UE o’r Cyd-bwyllgor Cytundeb Ymadael (WAJC), y disgwylir iddo gael ei gynnal ddechrau 2024.
Roedd swyddogion wedi codi pryderon yn gynharach ar y rhybudd byr a roddwyd ar gyfer cyfarfodydd blaenorol a rydym yn falch fod hyn wedi'i ystyried wrth bennu dyddiad ar gyfer y cyfarfod hwn.
Rhoddodd y cyfarfod gyfle defnyddiol i mi amlinellu nifer o faterion pwysig sydd gan Lywodraeth Cymru i'w datblygu yn ystod y misoedd nesaf. Er enghraifft:
- Ein pryderon cyffredinol o ran y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) presennol a bod angen ei wneud mor effeithiol a phosibl.
- Gwerthfawrogiad y bydd y DU nawr yn dychwelyd i raglenni Horizon Europe a Copernicus.
- Pryder bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â dychwelyd at Euratom a'r dewisiadau eraill y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn.
- Awydd Llywodraeth Cymru i weld datrysiad cynnar i'r problemau'n gysylltiedig â'r Rheolau Tarddiad ar gyfer cerbydau trydan.
- Ein pryderon ynghylch allforio molysgiaid dwygragennog byw.
- Yr angen i sicrhau masnach effeithiol mewn tatws hadyd.
- Yr angen i gynnal perthnasoedd effeithiol yn rhyngwladol i gadw gwytnwch yn ein system ynni trwy'r TCA i adeiladu sylfaen sefydlog ar gyfer mewnforio ac allforio ynni.
- Cysylltiad arbennig Cymru gyda Mecanwaith Addasu Ffiniau Carbon yr UE (CBAM) oherwydd ei diwydiant dur mawr.
- Pryder parhaus nad yw Llywodraethau Cymru a'r Alban wedi cael eu gwahodd eto i fod yn rhan o ddirprwyaeth y DU ar gyfer cyfarfodydd WAJC.
Bydd cyfarfod dilynol y Cyd-bwyllgor i gael ei drefnu.
Nid yw'r cyfarfod nesaf o'r IMG ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE wedi'i drefnu eto, ac nid oes unrhyw agenda wedi'i chytuno hyd yma.