Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ddydd Iau diwethaf, cyfarfod a alwyd yn bennaf i drafod a fyddai modd cytuno ar welliannau i'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a fyddai'n galluogi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban roi cydsyniad deddfwriaethol iddo.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn, y Gwir Anrhydeddus David Lidington, AS. Y Gweinidog dros Drafodaethau’r DU ar Sefyllfa yr Alban yn Ewrop, Michael Russell MSP oedd yn cynrychioli Llywodraeth yr Alban. Atodaf yr ohebiaeth sy'n rhoi rhagor o fanylion am y rhai oedd yn bresennol.

Roedd y cyfarfod yn un cadarnhaol iawn, o bob ochr. Cefais gyfle i roi ymateb ystyriol i'r cynnig a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ychydig cyn cyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ar 22 Chwefror a oedd, fel y dywedais wrth y Cynulliad yn fy natganiad llafar ar 27 Chwefror, yn dangos cynnydd sylweddol ond ddim yn ddigon ynddo'i hun i leddfu ein pryderon. Cyflwynodd Michael Russell a minnau atebion adeiladol i'r pryderon sy'n parhau: byddai'r rhain yn ei gwneud yn bosibl cytuno i'r gwelliannau cyn i'r Bil gyrraedd y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Cytunwyd bod gwerth edrych ar y cynigion hyn ymhellach.

Cadarnhaodd Gweinidogion y DU eu bwriad i gyflwyno eu gwelliannau eu hunain yn Nhŷ'r Arglwyddi er mwyn dangos cynnydd a gweld teimladau'r Tŷ yn ystod y Cyfnod Pwyllgor, ac mae’r rhain bellach wedi eu cyflwyno. Fodd bynnag, fy nealltwriaeth glir i oedd nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu pwyso am bleidlais dros welliannau o'r fath, ac y byddai cyfle i gael trafodaeth bellach cyn cynhyrchu gwelliant terfynol ar gyfer Cyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y byddai wedi bod yn llawer iawn gwell cytuno ar welliannau rhwng y tair Llywodraeth cyn hyn. Fodd bynnag, yn fy marn i, nid yw gwelliant Llywodraeth y DU nawr yn gwneud unrhyw beth ond diogelu ei sefyllfa, fel opsiwn wrth gefn, yn yr un modd ag y mae'n deddfwriaeth Parhad ni yn ei wneud i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

Byddaf hefyd, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y cynnydd, gan barchu cyfrinachedd angenrheidiol y trafodaethau hanfodol hyn rhwng llywodraethau.

Trafododd y Pwyllgor ddadansoddiad diweddaraf Llywodraeth y DU o feysydd cyfraith yr UE sy’n gorgyffwrdd â chymhwysedd datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Byddaf yn ysgrifennu at Aelodau’r Cynulliad er mwyn nodi sylwadau Llywodraeth Cymru am y dadansoddiad hwn.

Fe gafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am y negodiadau gyda 27 gwlad yr UE, ac fe gafwyd sicrwydd pellach y byddai papur yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ynghylch rhan y gweinyddiaethau datganoledig yn y negodiadau hynny yn y dyfodol.