Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhaliwyd cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar ffurf cyfarfod llawn yn 10 Stryd Downing ddydd Mercher 19 Rhagfyr. Roeddwn i’n cynrychioli Llywodraeth Cymru, ar y cyd â’r Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit. Mae’r crynodeb a gyhoeddwyd ar ôl y cyfarfod ar gael yn:

https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/766902/JMC_P__-_Joint_Communique__FINAL__-_19122018_OS.pdf

Yr eitem gyntaf ar yr agenda oedd trafodaeth am ymadawiad y DU â’r UE, a galwodd y Prif Weinidog ar lywodraethau Cymru a’r Alban i gefnogi ei bargen.

Pwysleisiais fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwrthod y fargen bresennol a phwysais arni i newid dull negodi’r llywodraeth, yn unol â’r penderfyniad a basiwyd gan y Cynulliad ar 4 Rhagfyr. Dywedais eto mor hanfodol bwysig oedd osgoi ymadael heb gytundeb a galwais hefyd am ragor o gydweithio rhynglywodraethol, sy’n hanfodol er mwyn cynllunio ar gyfer sefyllfa o’r fath.

Yr ail eitem ar yr agenda oedd trafodaeth am sefyllfa’r gydberthynas yn y DU, gan gynnwys diweddariad am yr adolygiad o’r berthynas rynglywodraethol a gomisiynwyd gan y Cyd-bwyllgor ym mis Mawrth 2018. Pwysleisiais fod angen i’r adolygiad hwn fwrw ati rhag blaen, o gofio’r baich sylweddol y bydd y peirianwaith rhynglywodraethol yn gorfod ymdopi ag ef ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar 8 Ionawr i roi gwybod i’r Aelodau am y datblygiadau diweddaraf o ran Pontio Ewropeaidd.