Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roeddwn i a’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn bresennol yn unfed Uwchgynhadledd ar bymtheg y Cyngor. Prydeinig-Gwyddelig yn Llundain a gynhaliwyd ddydd Llun, 20 Mehefin. Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Dirprwy Brif Weinidog ac roedd Gweinidogion arweiniol Aelod-weinyddiaethau eraill y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn bresennol ynddo, gan gynnwys:

  • An Taoiseach, Mr Enda Kenny TD, o Lywodraeth Iwerddon,
  • Y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Peter Robinson MLA a’r Dirprwy Brif Weinidog, Mr Martin McGuinness AS MLA o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon,
  • Y Prif Weinidog, Mr Alex Salmond MSP o Lywodraeth yr Alban,
  • Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Trysorlys ac Adnoddau, y Seneddwr Philip Ozouf o Lywodraeth Jersey,
  • Y Prif Weinidog, y Dirprwy Lyndon Trott o Lywodraeth Guernsey,
  • Y Prif Weinidog, yr Anrhydeddus James Anthony Brown MHK o Lywodraeth Ynys Manaw.

Mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn parhau i chwarae rôl unigryw a phwysig o ran hybu, hyrwyddo a meithrin cysylltiadau rhwng yr Aelod-weinyddiaethau ac o ran bod yn fforwm ar gyfer ymgynghori a chydweithredu. Y tro hwn, roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i’r Aelod-weinyddiaethau drafod dwy eitem o bwys; hybu twf economaidd a’r weledigaeth o fabwysiadu dull o ddatblygu ynni sy’n cynnwys holl Ynysoedd Prydain ac Iwerddon.

O ran twf economaidd, amlinellodd Llywodraeth Cymru sut y mae Cymru wedi bod yn llwyddo i ymdopi â storm yr argyfwng ariannol byd-eang a’r dirwasgiad a ddaeth yn ei sgil drwy fabwysiadu polisïau arloesol, megis ProAct and ReAct, a thrwy gydweithio’n agos â’n partneriaid cymdeithasol yn y sector busnes, y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol. Aethom ati i dynnu sylw at ein pryder am y cynnydd a welwyd yn ddiweddar yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yng Nghymru, a allai fod yn arwydd bod amodau’n anodd unwaith eto yn y farchnad lafur. Buom yn tynnu sylw hefyd at sut yr ydym yn mynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc drwy greu cronfa swyddi a hyfforddiant a thrwy gynnig rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc fanteisio ar brentisiaethau.   

Mae’r adferiad economaidd yng Nghymru yn un bregus iawn ac mae’n rhaid mynd ati i’w chefnogi drwy sicrhau bod cydbwysedd o ran twf ar draws Ynysoedd Prydain ac Iwerddon; ni fyddai ‘adferiad’ a fyddai’n seiliedig ar dwf economaidd yn Llundain a De-orllewin Lloegr yn unig yn gwireddu’r dyhead hwnnw. Galwon ni ar y sector ariannol i wireddu’r addewidion y mae wedi’u gwneud drwy’r Tasglu Cyllid Busnes a thrwy Brosiect Merlin i roi benthyg mwy ac i wella’r berthynas rhwng y banciau a busnesau, yn enwedig Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru.    

Manteisiwyd hefyd ar y cyfle yn ystod yr Uwchgynhadledd hon i ailbwysleisio bod y toriadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud i gyllid cyfalaf yn peryglu economi Cymru yn fawr, yn arbennig felly'r diwydiant adeiladu. Ailbwysleisiwyd hefyd ein bod yn awyddus i drafod ariannu teg i Gymru, gan gynnwys sicrhau bod pwerau benthyca ar gael i Lywodraeth Cymru.  

Roedd yr holl aelodau yn unfrydol o blaid datblygu ynni mewn ffordd sy’n cynnwys holl Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, ac mae’r Cyngor yn siŵr o drafod y mater hwn eto mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Roedd y drafodaeth am ddatblygu ynni yn gyfle i mi ddisgrifio’r potensial sydd i Gymru gynhyrchu ddwywaith cymaint o drydan ag y mae’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd drwy ffynonellau cwbl adnewyddadwy erbyn 2025. Aethom ati hefyd i bwysleisio bod mynediad i rwydwaith y grid, a’r capasiti sydd ar gael ar y grid, yn rhwystrau sylfaenol allweddol sy’n ein hatal rhag mynd ati i ddatblygu dulliau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Cyfeiriais at effaith polisi ynni Llywodraeth y DU ar Gymru, ac ar Sir Drefaldwyn yn benodol, fel y nodwyd yn fy natganiad dyddiedig 17 Mehefin 2011 ar gynllunio ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Mae’n anodd derbyn sefyllfa lle y mae penderfyniadau a wneir y tu allan i Gymru yn medru arwain at ddatblygiadau amhriodol i bobl Cymru, a galwais eto ar Lywodraeth y DU i ddatganoli pwerau caniatâd ar gyfer prosiectau seilwaith ynni mawr i Gymru.

Cafodd y pwyntiau allweddol a drafodwyd yn yr unfed Uwchgynhadledd ar bymtheg eu cyhoeddi mewn Cyd-hysbysiad, sy’n amgaeedig. Llywodraeth Iwerddon fydd yn cynnal Uwchgynhadledd nesaf y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig y flwyddyn nesaf.