Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynrychiolodd Gweinidog yr Economi a minnau Lywodraeth Cymru mewn cyfarfod pedair gwlad ar 3 Mehefin, o dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog y DU, i drafod y berthynas waith rhwng Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ac adferiad COVID-19.

Cyhoeddwyd hysbysiad yn dilyn y cyfarfod: COVID-19 Recovery Meeting: 3 June 2021 (GOV.UK)

Yr eitem gyntaf ar yr agenda oedd Gweithio Gyda'n Gilydd. Tynnais sylw at bwysigrwydd mynd i'r afael â chyflwr cyffredinol cysylltiadau rhynglywodraethol ac ailadroddais fod Llywodraeth Cymru am gyflwyno achos cadarnhaol dros ddyfodol y Deyrnas Unedig fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd, gan ddod at ei gilydd lle mae buddiannau cyffredin.

Cyfeiriais at ein bwriad i adnewyddu arfaethedig y cyhoeddiad cyfansoddiadol nodedig Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU, a thynnais sylw at bwysigrwydd cwblhau'r Adolygiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol – yn enwedig yng nghyd-destun sicrhau sail reolaidd, ddibynadwy a pharchus ar gyfer ymgysylltu.

Fe’i gwneuthum yn glir i Brif Weinidog y DU fod yn rhaid i'r dull gwrthdrawiadol presennol newid os ydym am wneud i'r Undeb weithio i bob gwlad. Nid oes rhaid iddi fod fel hyn – mae Llywodraeth Cymru am weld Cymru gref mewn DU lwyddiannus.

Pwysleisiais hefyd sut y mae dull presennol Llywodraeth y DU o geisio defnyddio ei phwerau cymorth ariannol o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU yn gwbl annerbyniol - gan dynnu cyllid i ffwrdd mewn meysydd datganoledig sydd wedi bod yn fater i'r Senedd hon benderfynu arnynt yn y pen draw ers dechrau datganoli.

Disgrifiais y niwed y mae hyn yn ei wneud i’r Undeb, a'r diffyg parch y mae'n ei ddangos i rôl y Senedd ac i'r mandad clir gan bobl Cymru dros gryfhau datganoli. Nid yn unig y mae hyn yn amhriodol yn gyfansoddiadol; mae hefyd yn cynnig gwerth gwael am arian ar gyfer gwariant cyhoeddus prin os yw Llywodraeth y DU yn dyrannu cyllid heb ymgysylltu'n briodol â Llywodraeth Cymru ac alinio â'n strategaethau economaidd rhanbarthol.

Roedd yr ail eitem yn cynnwys cyflwyniadau gan Lywodraeth y DU ar y cyd-destun ar gyfer adferiad yn sgil COVID-19, yn enwedig mewn perthynas â'r economi yn ogystal ag arian a gwasanaethau cyhoeddus. Tanlinellais yr angen am adferiad a arweinir gan fuddsoddiad y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi'u hamlygu gan y pandemig. Galwais hefyd am dâl teg i'r gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus yr ydym wedi dibynnu arnynt mor drwm yn y pandemig hwn.

O ran yr eitem olaf, sef asesu effaith COVID-19 ar yr economi a gwasanaethau cyhoeddus, myfyriais ar y sefyllfa yng Nghymru, y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd iawn â hi. Cadarnheais ddiddordeb Llywodraeth Cymru mewn dysgu o brofiadau ledled y DU, ond awgrymais y dylai gwaith ar y cyd yn y dyfodol ganolbwyntio ar y rhyngwyneb rhwng materion datganoledig a materion a gadwyd yn ôl, megis yr economi, adferiad gwyrdd a theithio.

Manteisiais hefyd ar y cyfle i godi ein pryderon eto am oblygiadau cytundeb masnach rhwng y DU ac Awstralia i Gymru.