Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn croesawu'r cyhoeddiad a wnaed yn ddiweddar gan y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, sy'n nodi'r egwyddorion ar gyfer gwaith rhynglywodraethol. Mae hwn yn gam cadarnhaol o ran meithrin y berthynas sydd ei hangen er mwyn cyrraedd yr amcanion cyffredin sydd gan Lywodraethau'r DU.

Wrth inni baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae'n glir bod angen i lywodraethau gydweithio ar ddatblygu a gweithredu polisïau ar gyfer y dyfodol, yn enwedig mewn meysydd lle mae rhai o'r cyfrifoldebau wedi'u datganoli ac eraill wedi'u cadw'n ôl, er mwyn sicrhau canlyniadau a fydd o fudd i bawb. Mae hyn yn arbennig o wir o ran yr uchelgais cyffredin sydd gennym mewn perthynas â datgarboneiddio ac ynni, o ran y rôl yr ydym yn ei chware wrth helpu'n gilydd i gyrraedd targedau domestig ac i wireddu'r manteision a ddaw o newid i gymdeithas carbon isel. 

Rydym yn gweithio i gryfhau'r berthynas rhwng gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae cynnydd da wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth sefydlu trefniadau gweithio ffurfiol rhwng Ysgrifennydd Gwladol Defra a Gweinidogion y Gweinyddiaethau Datganoledig eraill. Yn fwy diweddar, rydym wedi bod yn meithrin y berthynas rhyngom a chydweithwyr Gweinidogol yn Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) Llywodraeth y DU er mwyn datblygu trefniadau mwy ffurfiol.

Ar 28 Mehefin, ar ôl Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar ynni a'r newid yn yr hinsawdd. Roeddwn i'n bresennol yn y cyfarfod, a gadeiriwyd gan Chris Skidmore AS, Gweinidog Gwladol BEIS dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesi a Gweinidog Gwladol Interim dros Ynni a Thwf Glân, Paul Wheelhouse ASA, y Gweinidog dros Ynni, Cysylltedd a'r Ynysoedd, a swyddogion o Ogledd Iwerddon.

Canolbwyntiwyd yn ystod y trafodaethau ar y paratoadau ar gyfer gadael yr UE heb gytundeb, gan gynnwys ein perthynas fasnachu gyda'r UE yn y dyfodol, a sut y gallwn gydweithio'n agosach er mwyn gwireddu'n huchelgais i greu cymdeithas carbon isel. 

Gwnaethom gytuno y byddai Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o sicrwydd ynglŷn â diogelu ffynonellau ynni wrth i'r DU adael yr UE ym mis Hydref, y byddai swyddogion yn datblygu rhaglen waith er mwyn inni fynd ati ar y cyd i baratoi ar gyfer trafodaethau gyda'r UE ar Bartneriaeth Economaidd y Dyfodol, ac y byddai amserlen yn cael ei pharatoi ar gyfer cyfarfodydd rhwng y Gweinidogion am faterion sydd o ddiddordeb cyffredin. 

Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.