Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mynychais gyfarfod rhwng Gweinidogion sectorau gwaith Cynllunio Gofodol Cydweithredol a Thai y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar 25 Chwefror 2021. Cynhaliwyd y cyfarfod ar-lein gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am gynllunio a thai, cynrychiolais Lywodraeth Cymru. Cadeiriwyd y cyfarfod ar y cyd gan Nichola Mallon ACD, y Gweinidog Seilwaith, a Deirdre Hargey ACD, y Gweinidog Cymunedau, o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. Cynrychiolwyd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon hefyd gan yr Is-weinidog Gary Middleton ACD. Cynrychiolwyd Llywodraeth Guernsey gan y Dirprwy Victoria Oliver, Llywydd yr Awdurdod Datblygu a Chynllunio. Cynrychiolwyd Llywodraeth Iwerddon gan Mr Darragh O’Brien TD, y Gweinidog Tai, Llywodraeth Leol a Threftadaeth a Mr Peter Burke TD, y Gweinidog Gwladol dros Lywodraeth Leol a Chynllunio. Cynrychiolwyd Llywodraeth Ynys Manaw gan yr Anrhydeddus Tim Baker MHK, y Gweinidog Seilwaith, a’r Anrhydeddus Ray Harmer MHK, y Gweinidog Polisi a Diwygio. Cynrychiolwyd Llywodraeth Jersey gan y Dirprwy John Young, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, a’r Dirprwy Russell Labey, y Gweinidog Tai a Chymunedau. Cynrychiolwyd Llywodraeth yr Alban gan Mr Kevin Stewart ASA, y Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Cynrychiolwyd Llywodraeth y DU gan y Gwir Anrhydeddus Christopher Pincher AS, y Gweinidog Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Yn y cyfarfod, gwnaethom ystyried a myfyrio ar bapurau pob un o’r sectorau gwaith, a oedd yn cynnwys trafodaeth ar heriau a chyfleoedd i’r sectorau tai a chynllunio. Gwnaethom hefyd gymeradwyo cyhoeddiad ar y cyd a baratowyd gan y sectorau gwaith Cynllunio Gofodol Cydweithredol a Thai ar heriau cynllunio gofodol a thai allweddol sy’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio o’r enw “Creating an Inclusive Future Vision for our Ageing Populations”.

Nodais yn benodol y gwaith cadarnhaol a wnaed gan yr Aelod-weinyddiaethau ar yr holl bapurau Tai a Chynllunio Gofodol a gyflwynwyd. Amlinellais fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd da, gan gydnabod ei bwysigrwydd fel sylfaen cymunedau da. Wrth i ni ddod allan o COVID-19 mae’r ymrwymiad hwn yn bwysicach nag erioed. Mae cynyddu’r cyflenwad o dai i holl aelodau ein cymdeithas, gan gynnwys y boblogaeth sy’n heneiddio, o’r pwys mwyaf. 

Pwysleisiais hefyd na ellir datrys llawer o’r materion a’r heriau a nodwyd ar wahân. Wrth i ni ddod allan o’r argyfwng COVID-19 presennol, mae ein cydweithrediad parhaus yn hanfodol a bydd yn ein galluogi i ddysgu o brofiadau a rennir.

Gwnaethom hefyd ystyried cynnwys y blaengynlluniau gwaith ar gyfer y sectorau gwaith Cynllunio Gofodol Cydweithredol a Thai, sy’n nodi’r meysydd i ganolbwyntio arnynt ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Nodwyd a chytunwyd ar y rhain.  Y meysydd i ganolbwyntio arnynt ar gyfer y sector gwaith Cynllunio Gofodol Cydweithredol yw:

  • Cyfraniad Cynllunio Gofodol at ‘Adeiladu Lleoedd Gwell’ yng nghyd-destun adferiad COVID;
  • Cyfraniad Cynllunio Gofodol at adfywio trefi; 
  • Arferion gorau mewn Fframweithiau Cynllunio Cenedlaethol/Rhanbarthol;
  • Hybu dysgu arbenigol a rhannu profiadau.

Y meysydd i ganolbwyntio arnynt ar gyfer sector gwaith Tai yw:

  • Her newid yn yr hinsawdd a materion dylunio cysylltiedig;
  • Darparu Tai fforddiadwy addas;
  • Agweddau ar rôl Tai ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cyfrannodd pob Aelod-weinyddiaeth at y trafodaethau gwerthfawr a phwysig hyn. Cyhoeddwyd cyd-hysbysiad ar ôl y cyfarfod:

https://www.britishirishcouncil.org/sites/default/files/communiqués/Collaborative%20Spatial%20Planning%20%26%20Housing%20Joint%20Ministerial%20Communiqué%20-%20Virtual%20-%2025%20February%202021.pdf

Cytunwyd y byddai’r cyfarfod Gweinidogol nesaf ar gyfer y ddau sector gwaith yn cael ei gynnal yn 2023.