Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod rhif 34 y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a gynhaliwyd ar-lein ar 6 Tachwedd gan Lywodraeth yr Alban. Gyda mi yr oedd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Y Gwir Anrhydeddus Nicola Sturgeon ASA, Prif Weinidog yr Alban, oedd cadeirydd y cyfarfod. Ymysg y rhai eraill a oedd yn bresennol oedd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS; Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrhydeddus Brandon Lewis AS; Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Alister Jack AS; An Taoiseach, Micheál Martin T.D.; An Tánaiste, Leo Varadkar T.D.; a Phrif Weinidogion Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw. Ar ôl adfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn gynharach eleni, roeddem yn croesawu cyfranogiad Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrhydeddus Arlene Foster ACD, a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O’Neill ACD.

Roedd hi’n siomedig bod Prif Weinidog y DU wedi methu mynychu’r cyfarfod unwaith eto.

Adferiad Economaidd yng nghyd-destun Covid-19 oedd thema’r cyfarfod hwn. Er mai argyfwng iechyd y cyhoedd yw’r pandemig yn bennaf, mae wedi achosi goblygiadau dwys i’n heconomïau, ein cymdeithasau a’n cymunedau. Cafodd y Cyngor drafodaeth adeiladol ac addysgiadol ar y pwnc, gan rannu profiad o’r heriau eithaf tebyg y mae pob gweinyddiaeth yn eu hwynebu, a safbwyntiau o ran mynd i’r afael â’r mater digynsail hwn.

Yn ystod y drafodaeth, tynnais sylw at y canlynol:

  • nid yw effaith economaidd COVID-19 wedi’i rhannu’n gyfartal – a sut mae’r pandemig wedi dwysáu anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes, gan gael yr effaith drymaf ar y rhai mwyaf agored i niwed. Esboniais fod effaith fwy wedi bod ar rai cymunedau nag eraill; naill ai o safbwynt iechyd, fel sy’n wir i gymunedau BAME a phobl anabl, neu’n economaidd, yn enwedig y rhai sy’n gweithio mewn sectorau fel manwerthu, twristiaeth, y celfyddydau neu letygarwch; ond bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sylfaen ar gyfer cefnogi Cymru fwy cyfartal.
  • er bod y pandemig yn cael effaith economaidd niweidiol ar bobl ifanc – sy’n debygol o barhau y tu hwnt i’r pandemig mewn cyd-destun ariannol ac economaidd hynod o heriol – rydym yn datblygu mentrau ar gyfer adferiad sy’n seiliedig ar swyddi.
  • rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio tuag at economi werdd drwy adferiad gwyrdd.
  • mae’n rhaid i’r holl faterion hyn fod ar flaen ein meddwl wrth i ni gynllunio’r adferiad ar ôl COVID-19, a hynny yng nghyd-destun ehangach ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac yn erbyn y posibilrwydd o niwed economaidd pellach yn sgil diwedd cyfnod pontio’r UE.

Nododd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ymateb Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng: 

  • Rydym wedi cael deialog rheolaidd ac adeiladol, ac wedi rhannu profiadau â’r llywodraethu datganoledig eraill a Llywodraeth y DU.
  • Mae cyfuniad y pandemig a gadael yr UE yn bygwth cildroi’r cynnydd rydym wedi’i wneud o ran lleihau diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru dros y degawd diwethaf.
  • Yn yr un modd a’r holl Aelod-weinyddiaethau, ymateb cyntaf Llywodraeth Cymru i’r argyfwng hwn oedd achub bywydau a diogelu swyddi a busnesau, a hynny drwy wariant heb ei debyg o’r blaen ar becynnau cymorth.
  • Mae gan Lywodraeth Cymru agenda â phedair elfen iddi ar gyfer adferiad parhaus, sef cefnogi a buddsoddi yn y canlynol:
    • datgarboneiddio – buddsoddi mewn seilwaith carbon isel, prosiectau ynni adnewyddadwy a chartrefi cynaliadwy;
    • arloesedd, cynhyrchiant, a datblygu gweithlu medrus sy’n barod ar gyfer y dyfodol;
    • llesiant sy’n gysylltiedig heb os â’n llesiant amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol;
    • potensial cynhyrchiol bob cymuned, dosbarthu cyfleoedd yn deg, a pharhau i fynnu a hyrwyddo gwaith teg.

Roedd trafodaeth y Cyngor ar Ddatblygiadau Gwleidyddol Diweddar yn canolbwyntio’n bennaf ar ymadawiad y DU â’r UE, a diwedd y cyfnod pontio, sydd yn dal yn destun pryder sylweddol i’r holl Aelod-weinyddiaethau, mewn gwahanol ffyrdd. Wrth gyfrannu at y ddadl, roeddwn wedi gwneud y pwyntiau canlynol:

  • Croesawais y trafodaethau ar waith pellach i gynnal a gwella’r berthynas â Gweriniaeth Iwerddon, fel ein cymydog Ewropeaidd agosaf.
  • Mae peryglon gwirioneddol i sefyllfa gyfansoddiadol y DU o hyd, a amlygir gan Fil Marchnad Fewnol y DU. Nid oes gan y Bil hwn unrhyw obaith o sicrhau cydsyniad deddfwriaethol y Senedd os na chaiff ei newid.  Pe na bai penderfyniad o’r fath yn cael ei barchu gan Lywodraeth y DU, byddai’r goblygiadau yn ddifrifol.
  • Mae’n rhaid cael trefniadau rhynglywodraethol gwell o lawer er mwyn cynnal llwyddiant y Deyrnas Unedig. Soniais am y trefniadau sy’n sail i weithrediad y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ei hun – ysgrifenyddiaeth annibynnol, rhaglen waith y cytunir arni, cyfarfodydd rheolaidd, a chadeiryddiaeth gylchredol sy’n seiliedig ar yr egwyddor cydraddoldeb cyfranogiad.  Pwysleisiais ei fod yn dal yn gydran hollbwysig o’n trefniadau cyfansoddiadol a (fel y cytunwyd arno yn y cyfarfod diwethaf) bod lle i’w ddatblygu ymhellach, a’i wneud yn rhan gryfach o’r berthynas rynglywodraethol rhwng yr Aelod-weinyddiaethau.
  • Galwais am ddyblygu’r egwyddorion a’r nodweddion hyn o berthynas rynglywodraethol dda, a’u gwneud yn berthnasol i’r ffordd y mae’r Deyrnas Unedig ei hun yn gallu rheoli argyfyngau gwleidyddol y coronafeirws, y newid yn yr hinsawdd a diwedd cyfnod pontio’r UE, sy’n agosáu.

Roedd pob Aelod-weinyddiaeth wedi cyfrannu at y trafodaethau gwerthfawr a phwysig hyn. Cyhoeddwyd cyd-ddatganiad ar ôl y cyfarfod: https://www.britishirishcouncil.org/sites/default/files/communiqu%C3%A9s/Thirty%20Fourth%20Summit%20-%20Scotland%20-%2006%2011%2020.pdf

Caiff Uwchgynhadledd nesaf y Cyngor ei chynnal gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon.