Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ddydd Iau, 23 Ionawr 2025, roeddwn yn cadeirio'r is-bwyllgor Cabinet cyntaf ar Ogledd Cymru o dymor y llywodraeth newydd. Ochr yn ochr â'r Prif Weinidog a chydweithwyr yn y Cabinet, buom yn trafod dwy o bedair blaenoriaeth y Prif Weinidog - Iechyd Da a Chyfleoedd i bob teulu - a'r hyn yr oeddent yn ei olygu i Ogledd Cymru. Pwysleisiodd cydweithwyr yn y Cabinet rai datblygiadau pwysig ac arfer da yn y rhanbarth, gan gynnwys y cynnydd y mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ei wneud, ei rôl wrth dreialu Cofnodion Cleifion Electronig a'r effaith wirioneddol y mae ei thimau camddefnyddio sylweddau yn ei chael ar lawr gwlad. Ar Addysg, buom yn trafod y buddsoddiad o £8.8m yn ysgolion Gogledd Cymru i ganolbwyntio mwy ar y gymuned, gan adeiladu ar y £4.6m a fuddsoddwyd eisoes yn 2022/23. Amlygodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg hefyd, ers 2014, fod ysgolion a cholegau yn rhanbarth Gogledd Cymru wedi elwa o fuddsoddiad o £430m, gan ddarparu cyfleusterau newydd a rhai wedi'u hadnewyddu. Clywsom hefyd sut y bydd y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu yn gweld cyllid grant Llywodraeth Cymru o dros £690m ar draws 82 o brosiectau yn y Gogledd. Buom hefyd yn trafod iechyd meddwl a lles dysgwyr a'r camau yr ydym yn eu cymryd i gynyddu cyfranogiad ôl-16, gyda phwyslais ar roi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein cymunedau i fanteisio ar gyfleoedd yr economi gylchol a thwf gwyrdd. 

Ar ôl y trafodaethau hyn, ymunodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Is-Gangellorion Prifysgolion Bangor a Wrecsam, Prif Weithredwyr Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo-Menai ac arweinwyr y chwe Awdurdod Lleol i drafod Iechyd Da a Chyfleoedd i bob teulu. Buom yn trafod ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer y rhanbarth ond hefyd yn clywed am rai o'r heriau yr oeddent yn eu hwynebu.  Croesawodd fy nghydweithwyr yn y Cabinet a minnau gryfder y gwaith partneriaeth rhanbarthol presennol yn y rhanbarth, ac ymrwymais i helpu i'w gynnal a'i ddatblygu ymhellach.  

Ac fel rhan o raglen ymgysylltu ehangach, cynhaliodd llawer o fy nghydweithwyr yn y Cabinet, gan gynnwys y Prif Weinidog, gyfres o ymweliadau ar draws y rhanbarth. Ymwelodd y Prif Weinidog â Choleg Menai ar Ynys Môn lle cyfarfu â myfyrwyr a gefnogwyd gan Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) Llywodraeth Cymru cyn ymweld ag MSParc i drafod cyfleoedd trawsnewidiol porthladd rhydd Gogledd Cymru i economi'r rhanbarth. Roedd y Dirprwy Brif Weinidog ym Mhenrhyndeudraeth lle dysgodd fwy am adeiladu cartrefi pren arloesol a'r cyfleoedd a ddarparodd y sector o ran sgiliau a phrentisiaethau. Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol â  Wrecsam Maelor ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor, tra bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi ymgymryd â chyfres o ddigwyddiadau o amgylch Wrecsam, lle ymwelodd ag Eglwys Sant Marc ym Mharc Caia a chwrdd â thîm Ymgysylltu Dinesig Prifysgol Wrecsam a WeMindtheGap. Ymwelodd y Gweinidog Sgiliau, Diwylliant a Phartneriaethau Cymdeithasol â Thŷ Pawb ac Amgueddfa Wrecsam, tra roeddwn yn croesawu Gweinidog Materion Cyn-filwyr y DU, Alistair Cairns AS, i Woody's Lodge ym Mae Colwyn. 

Edrychaf ymlaen at gadeirio'r cyfarfod nesaf yn yr haf.