Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gweddnewid y ffordd y bydd llywodraethau'r DU yn gweithio ac yn ymwneud â'i gilydd, waeth a gawn ni gytundeb â'r UE neu beidio.

Rhan bwysig o'r gwaith hwnnw fydd cryfhau a normaleiddio'r trefniadau ffurfiol i weinidogion gwrdd i drafod heriau gadael yr UE. Mae'r cyfarfodydd pedairochrol a gafwyd ag adrannau busnes, ynni a strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU ac ag Adran yr Amgylchedd, Ffermio a Materion Gwledig am ynni a'r hinsawdd eisoes wedi profi mor bwysig yw trafodaethau rhwng gweinidogion i osod y sylfeini ar gyfer gweithio ar y cyd.

Cafodd y cyntaf mewn cyfres o gyfarfodydd pedairochrol rhwng gweinidogion am fusnes a diwydiant ei gynnal ar 4 Ebrill. Roeddwn i fy hunan yn bresennol ar ran Llywodraeth Cymru ac roedd Ivan McKee MSP yn bresennol ar ran Llywodraeth yr Alban a Kelly Tolhurst AS ar ran Llywodraeth y DU. Cynrychiolwyd Gogledd Iwerddon gan uwch swyddog o'r Gwasanaeth Sifil.

Pwrpas y cyfarfod oedd trafod effaith gadael yr UE ar fusnesau a diwydiant yn rhannau gwahanol y DU, ac i bennu'r agenda ar gyfer cydweithio yn y dyfodol, e.e. trwy Bartneriaeth Economaidd y Dyfodol.

Trafodwyd sut y mae rhannau gwahanol o'r DU yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn ymateb yn effeithiol a chydlynol i heriau gadael yr UE ac i gynllunio ar gyfer dyfodol economaidd llwyddiannus i bob gwlad a rhanbarth. Trafodwyd hefyd yr ymatebion ar lefel y DU i'r siociau economaidd a pharodrwydd busnesau.

Caiff y cyfarfodydd pedairochrog ar gyfer busnesau a diwydiannau eu cynnal o leiaf bob chwarter. Ceir cytundeb hefyd i gynnal cyfarfod pedairochrol ehangach â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a'r Strategaeth Ddiwydiannol cyn yr haf.