Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhaliwyd Cyfarfod Llawn o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn Rhif 10 Stryd Downing ddydd Mercher 14 Mawrth. Roeddwn yn bresennol i gynrychioli Llywodraeth Cymru. Mae’r ohebiaeth a gyhoeddwyd ar ôl y cyfarfod wedi’i hatodi yma.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda oedd adroddiad gan Brif Weinidog y DU (yng nghwmni'r Cynghorydd ar Ddiogelwch Gwladol, Syr Mark Sedwill) yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am amgylchiadau'r gwenwyno yng Nghaersallog ac ymateb Llywodraeth y DU, yr oedd newydd ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin. Ar ran Llywodraeth Cymru, mynegais fy nghefnogaeth lwyr i ymateb cadarn a chymesur Llywodraeth y DU, a phryder aruthrol am y gweithredoedd di-hid a chwbl annerbyniol yr ymddengys i Rwsia eu cyflawni; ar wahân i unrhyw beth arall, roedd nifer o bobl ddiniwed wedi'u peryglu'n ddifrifol gan y gweithredoedd hyn. Mynegodd Nicola Sturgeon ymateb tebyg, ac fe fydd hi a minnau'n parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau yn ôl yr angen ar delerau'r Cyfrin Gyngor.

Yna cafwyd trafodaeth ar Brexit, gan edrych yn gyntaf ar sefyllfa ddiweddaraf y negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd ac yna ar y goblygiadau domestig sy'n cael eu mynegi ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). O ran y cyntaf, tynnodd Prif Weinidog y DU sylw at ei haraith ddiweddar ym Mansion House ac at y Cyngor Ewropeaidd nesaf; lle mae Llywodraeth y DU yn gobeithio cytuno ar drefniadau pontio (neu 'weithredu') ar gyfer y cyfnod yn union ar ôl y diwrnod ymadael, a symud ymlaen ar y testun cyfreithiol sy'n rhoi effaith i gytundeb mis Rhagfyr diwethaf ar y trefniadau ymadael. Nododd y Prif Weinidog hefyd bod y Cyngor yn debygol o gytuno ar ganllawiau i'w negodwyr ar gyfer cam nesaf y negodiadau ar berthynas masnach a pherthynas diogelwch yn y dyfodol.

Gan ymateb i'r pwyntiau hyn, dywedais eto bod angen i'r DU gael mynediad mor llawn â phosib at y farchnad sengl, gan gyfeirio at y berthynas sydd gan Norwy gyda'r farchnad sengl. Hefyd dywedais eto bod Llywodraeth Cymru am weld y DU yn aros o fewn Undeb Tollau gyda'r UE, yn rhannol gan y byddai hynny'n gam sylweddol tuag at ddatrys anawsterau trefniadau ffin Iwerddon yn y dyfodol (ac yn y cyd-destun hwnnw nodais yr anawsterau penodol a allai godi i Gaergybi a phorthladdoedd eraill Cymru sy'n ymdrin â masnach gydag Iwerddon pe na ellid cytuno ar drefniant boddhaol). Pwysleisiais hefyd bod angen cytuno'n gynnar ar drefniadau pontio. Yn olaf, wrth edrych tua'r dyfodol, pwysleisiais pa mor bwysig yr oedd Llywodraeth Cymru'n gweld cyfranogiad y gweinyddiaethau datganoledig gyda Llywodraeth y DU yn y negodiadau ar berthynas masnachu gyda'r UE yn y dyfodol, a pholisi masnach a negodiadau yn fwy cyffredinol. Bydd papur ar hyn yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau'r UE, ac fe fyddwn yn gofyn am argymhellion cadarn gan Lywodraeth y DU ar y mater hwn.

Yna cafwyd trafodaeth ar ganlyniadau domestig Brexit. Wrth gyflwyno'r eitem dywedodd Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, David Lidington bod Llywodraeth y DU, er mwyn bodloni ymrwymiad yr oedd eisoes wedi'i roi, wedi cyflwyno gwelliant i gymal 11 o'r Bil Ymadael cyn ystyriaeth Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi a fydd yn digwydd dros y diwrnodau nesaf.  Fodd bynnag, roedd Mr Lidington yn awyddus i bwysleisio nad dyma o reidrwydd oedd gair olaf Llywodraeth y DU ar y mater, a bod Llywodraeth y DU yn parhau i geisio cytundeb gyda'r gweinyddiaethau datganoledig; roedd ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i syniadau a gyflwynwyd gan y gweinyddiaethau datganoledig yng nghyfarfod diweddar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau'r UE.

Atebais drwy gadarnhau ein bod yn dymuno sicrhau cytundeb, ond dywedais nad oedd y gwelliant a gyflwynwyd yn ddigon i'm galluogi i argymell i'r Cynulliad roi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil Ymadael. Roedd angen i ni weld darpariaeth ar gyfer cydsyniad i'r materion a oedd wedi'u cynnig i'w rhoi tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad dros dro, yn hytrach na'r ymgynghoriad ac adroddiad Seneddol gofynnol y mae darpariaeth ar eu cyfer yn y gwelliant. Hefyd roedd angen mwy o eglurder ar nodwedd 'dros dro' trefniadau cymal 11 (rhyw fath o ddarpariaeth 'machlud' o bosib); sicrwydd y byddai Confensiwn Sewel yn berthnasol i unrhyw ddeddfwriaeth Seneddol sy'n gwneud darpariaeth newydd ar gyfer materion sy'n cael eu 'rhewi' yn ddeddfwriaethol dros dro gan reoliadau; a dealltwriaeth na fydd y Senedd yn deddfu ar y materion hyn yn Lloegr tra bod y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny yn eu gwledydd. Cytunwyd y byddai'r trafodaethau ar y materion amrywiol hyn yn parhau.

Yn olaf, cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi Adroddiad ar y gwaith a wnaed dan ambarél y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar gyfer y cyfnod 2015-2018, gan ofyn i swyddogion adolygu ac adrodd yn ôl i Weinidogion ar strwythurau a threfniadau gwaith rhynglywodraethol presennol, gan gynnwys y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, er mwyn galluogi'r llywodraethau i fodloni heriau llywodraethu newydd yn fwy effeithiol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

Mae'n sylw'n troi yn awr at gyfarfod pwysig y Cyngor Ewropeaidd ar 22-23 Mawrth, ac ystyriaeth bellach o'r Bil Ymadael, yn arbennig cymal 11, yn ystod cyfnod Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi. Mae Prif Weinidog yr Alban a minnau wedi ysgrifennu ar y cyd at yr Arglwydd Lefarydd, gan nodi ein pryderon am welliant Llywodraeth y DU; atodir copi o'r llythyr hwnnw yma. Nawr rydym yn aros am ganlyniad y drafodaeth honno, ond yn y cyfamser bydd swyddogion Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio'n ddwys gyda'u swyddogion cyfatebol i weld os oes modd symud ymlaen ar y materion sy'n parhau i fod yn destun anghydfod.