Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 8 Tachwedd, mynychais Gyfarfod Gweinidogol Cynllunio a Lleoedd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Derry/Londonderry, a gynhaliwyd gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. Roedd hyn yn gyfle defnyddiol i drafod materion sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr â Gweinidogion o wledydd a gweinyddiaethau Prydain yn ogystal â chynrychiolwyr o Weriniaeth Iwerddon. 

Ynghyd â’r Cyngor, cefais gyfarfodydd dwyochrog gyda’r Farwnes Taylor o Stevenage, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol y DU dros Dai a Llywodraeth Leol; Ivan McKee MSP, Gweinidog Cyllid Cyhoeddus Llywodraeth yr Alban; a John O’Dowd MLA, y Gweinidog dros Seilwaith Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Ffocws y cyfarfodydd yma oedd gwella cyflawni a ffyniant drwy’r system gynllunio ac roeddynt yn gyfle ddefnyddiol i gyfnewid gwybodaeth ar ein blaenoriaethau. 

Roedd yn amlwg o’r trafodaethau yn y Cyfarfod Gweinidogol Cynllunio a Lleoedd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, er bod gan bob un ohonom ein blaenoriaethau ein hunain, ein bod yn rhannu nifer o’r un heriau a phryderon, ac mae'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn darparu fforwm defnyddiol iawn ar gyfer cyfnewid profiadau, syniadau, gwybodaeth ac arloesi rhwng pob parti. Cydnabu pob cyfrannwr pa mor bwysig yw cael system gynllunio effeithlon a gweithredol os ydym am gyflawni ein nodau priodol ar faterion megis datgarboneiddio, darpariaeth economaidd, a chyfiawnder cymdeithasol. 

Mae copi o'r Hysbysiad sy'n ymwneud â'r cyfarfod, y cytunwyd arno gan yr holl aelodau, ynghlwm https://www.britishirishcouncil.org/resources/planning-and-places-ministerial-communique-8-november-2024/planning-and-places-ministerial-final-communique-8-november-2024/ . Mae’n nodi Cynllun Gwaith y Dyfodol y cytunwyd arno ar gyfer ffrwd waith Cynllunio a Lleoedd ac yn benodol mae'n nodi dau faes fel ffocws ar gyfer gwaith yn y dyfodol, sef:

  1. Newid yn yr Hinsawdd a'r Argyfwng Bioamrywiaeth, a
  2. Sgiliau a Chapasiti ar gyfer Proffesiwn Cynllunio'r Sector Cyhoeddus

Mae'r ddau fater hwn o bwys sylweddol i'r Llywodraeth hon, ac rwyf wedi cymeradwyo Cynllun Gwaith y Dyfodol ac yn edrych ymlaen at berthynas waith barhaus gynhyrchiol gyda chydweithwyr y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar y materion hyn.