Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mynychais y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 10 Hydref.

Aildrefnwyd dyddiad y cyfarfod hwn i fod cyn 28 Hydref er mwyn ei gwneud hi’n bosibl trafod materion sy’n ymwneud â Brexit heb gytundeb cyn ymadael â'r UE o bosibl ar 31 Hydref.

Gwnaeth ein trafodaethau ganolbwyntio ar sut y gallwn gefnogi rhai o’n sectorau allweddol pe bai methiant yn y farchnad yn dilyn ymadael heb gytundeb, yn ogystal â materion eraill yn ymwneud ag ymadael heb gytundeb. Gwnes i ailadrodd fy mhryderon am effeithiau catastroffig yn ymwneud â gadael heb gytundeb ar Gymru.

Gellir dod o hyd i’r communiqué ynghylch y cyfarfod hwn ar wefan Llywodraeth y DU:

https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs.