Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Gwnaethom fynychu cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (IMG) ar 28 Mehefin.
Buom yn trafod uchelgeisiau o ran Sero Net a chytunwyd bod datgarboneiddio a rhagor o waith ym maes dal a storio carbon yn flaenoriaeth a rennir. Cytunodd y grŵp hefyd fod pob gweinyddiaeth yn wynebu materion cyffredin lle ceir cyfleoedd i gydweithio.
Buom hefyd yn trafod materion yn ymwneud â masnach, gan gynnwys cytundeb masnach rydd rhwng y DU ac Awstralia, sydd bellach wedi'i gytuno mewn egwyddor. Mewn perthynas â'r cytundebau masnach, codwyd pryderon ynghylch safonau lles anifeiliaid a diffyg ymgysylltu â'r llywodraethau datganoledig. Trafodwyd hefyd Fasnach rhwng y DU a’r UE ynghyd â llywodraethu cytundebau cydweithredu.
Buom hefyd yn trafod yr ymgynghoriad diweddar gan Defra ynghylch rheoleiddio technolegau genetig, lle gwnaethom nodi’n glir bod Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu technolegau o'r fath. Yna trafododd y grŵp ariannu pysgodfeydd a chydweithio i sicrhau bod cyllid yn y dyfodol yn mynd i'r afael ag anghenion pob gwlad. Trafododd y grŵp fframweithiau cyffredin hefyd gyda'r bwriad o gwblhau'r fframweithiau dros dro erbyn diwedd 2021.
Mae hysbysiad ynglŷn â'r cyfarfod hwn ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.
Mynychodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd gyfarofd o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (IMG) ar 22 Mawrth, lle trafodwyd datblygiadau diweddar ar y ffin a a rhoddwyd sylw arbennig i Brotocol Gogledd Iwerddon a model gweithredu Ffiniau'r DU. Gwnaeth y grŵp hefyd drafod cyllid.
Bydd cyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol yn cael ei gynnal ar 13 Medi.
Mae cyfarfodydd yn y dyfodol wedi'u hamserlennu dros dro ar gyfer 25 Hydref a 6 Rhagfyr.