Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ar 28 Tachwedd, mynychais gyfarfod cyntaf Tasglu Plannu Coed y DU, a oedd newydd ei sefydlu, dan gadeiryddiaeth Gweinidog Coedwigaeth y DU, Mary Creagh, gyda Gweinidogion o bedair gwlad y DU yn ogystal â chynrychiolwyr o Coed Cadw, Cydffederasiwn y Diwydiannau Coedwigoedd.
Bydd y Tasglu, a gaiff ei gadeirio fesul tro gan Weinidogion o bob un o wledydd y DU, yn cryfhau cydweithio ar draws y DU i gynyddu faint o goed a blannir a sicrhau goroesiad coetiroedd yn y tymor hir, gan sicrhau eu buddion ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Er bod coed a choedwigaeth yn faterion datganoledig, rydym i gyd yn wynebu rhai heriau cyffredin. Mae'r fforwm hwn yn rhoi cyfle i weithio gyda'n gilydd, rhannu arferion da, a datrys materion cyffredin i gefnogi ein targedau plannu coed a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Yng Nghymru, rydym yn cefnogi'r gwaith o blannu ystod eang o goed a chreu coetiroedd yn bwrpasol er mwyn sicrhau manteision lluosog, o goed sy'n ychwanegu gwerth i fusnesau fferm, i goetir a fydd yn darparu cynefin newydd gwerthfawr ac yn lliniaru effeithiau llifogydd, a'r cyfan yn cloi carbon o'r atmosffer.
Gyda thua 90% o'n tir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, mae gan ffermwyr rôl hanfodol i'n helpu i gyflawni ein targedau plannu coed ac mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio i gyflawni hyn. Dyma pam y mae amlinelliad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a gyhoeddais ar 25 Tachwedd yn cynnwys cefnogaeth ym mhob haen o'r cynllun i alluogi ffermwyr i greu coed a gwrychoedd ar eu tir fel rhan annatod o'u busnes fferm. Drwy gael gwared ar y cynnig gwreiddiol ar gyfer gorchudd coed o 10% ar bob fferm ac yn lle hynny cyflwyno targedau lefel cynllun ar gyfer plannu coed a gwrychoedd, byddwn yn galluogi ffermwyr i ddewis y camau y maent yn eu cymryd mewn ffordd a fydd yn cefnogi eu hamcanion unigol, gan wneud cynnydd hanfodol hefyd tuag at fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae creu swyddi a thwf gwyrdd yn ein cymunedau gwledig yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae sector coed a choedwigaeth lewyrchus ochr yn ochr â sector amaethyddol ffyniannus yn hanfodol i hyn. Mae gan goed, a'r pren maent yn ei gynhyrchu, rôl allweddol i'w chwarae yn nyfodol amgylcheddol ac economaidd Cymru. Mae manteision adeiladu gyda phren yn cael eu cydnabod yn ehangach, gan greu cartrefi cynaliadwy sy'n cyfrannu at liniaru'r newid yn yr hinsawdd drwy ddal carbon mewn adeiladau am eu hoes. Mae potensial gwirioneddol i Gymru gynyddu ein defnydd o bren a rhoi gwerth ychwanegol iddo, gan gefnogi arloesedd a datblygu sgiliau yn y sector adnewyddadwy hwn ar y tir. Byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad ar Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren i Gymru yn y flwyddyn newydd, ynghyd â Chynllun Sgiliau a fydd yn nodi camau clir i wella ac ehangu sgiliau'r sector coedwigaeth a phren yng Nghymru.
Mae manteision coed a choetir i gymunedau ac unigolion hefyd yn hanfodol i iechyd a llesiant pawb yng Nghymru. Mae ein Coedwig Genedlaethol i Gymru yn cefnogi llawer o wahanol fathau o goetiroedd, gan gynnwys coetiroedd bach sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn ogystal â choedwigoedd cynhyrchiol mawr. Bellach mae gennym 55 o safleoedd yn y Goedwig Genedlaethol, sy'n cwmpasu tua 3600 hectar. Mae hyn yn ychwanegol at 26 bloc o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, gan ddod â chyfanswm arwynebedd y tir yn y Goedwig Genedlaethol i dros 68,000 hectar. Byddwn yn parhau i dyfu'r Goedwig Genedlaethol ar hyd a lled Cymru ac yn edrych i brofi dull ar raddfa tirwedd yn ogystal â datblygu Llwybr Coedwig Cenedlaethol.
Mae coetiroedd hynafol yn adnodd naturiol na ellir ei adfer sy'n hynod werthfawr o safbwynt y dirwedd, bioamrywiaeth a diwylliant. Maent yn wynebu sawl bygythiad, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ac mae angen gweithredu ar draws ystod o feysydd polisi gwahanol. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i'w diogelu a byddaf yn cyhoeddi ein dull o gryfhau’r ffordd yr ydym yn eu diogelu yn y Flwyddyn Newydd yn unol â'n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.
Yn ystod cyfarfod y Tasglu cefais fy ysbrydoli gan lwyddiannau gwledydd eraill y DU ac rwyf hefyd yn falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud yn hyn o beth. Credaf mai dim ond drwy gydweithio â gwledydd eraill y DU y gellir gwella pwysigrwydd y gwaith hwn yng Nghymru fel rhan o'r Tasglu newydd hwn ar gyfer Plannu Coed.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.