Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fore heddiw, bûm yn cadeirio cyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (JEC). Sefydlwyd y Cyd-bwyllgor i oruchwylio’r broses o drosglwyddo i Gymru y pwerau ariannol newydd sydd wedi’u cynnwys ym Mil Cymru, yn ogystal â diwygiadau ariannol eraill y mae Llywodraeth y DU wedi cytuno arnynt mewn ymateb i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk.  

Roedd y canlynol yn cynrychioli Llywodraeth y DU yn y cyfarfod: y Gwir Anrh. Danny Alexander AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrh. Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a David Gauke AS, Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys.

Buom yn trafod hynt Bil Cymru, y broses a allai arwain Llywodraeth Cymru i gael pwerau i gyhoeddi bondiau, a datganoli ardrethi annomestig yn llawn.