Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n ysgrifennu atoch i hysbysu'r Senedd am gydsyniad diweddar i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru. Ceisiwyd cytundeb i wneud Gorchymyn o dan adran 104 o Ddeddf yr Alban 1998 o ganlyniad i Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Yr Alban) 2018.

Mae adran 104 o Ddeddf yr Alban 1998 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan un o Ddeddfau Senedd yr Alban neu oddi tani.

Mae erthygl 7 o'r Gorchymyn arfaethedig yn diwygio rheoliad 53 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 i alluogi unigolion i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau seneddol y DU ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr heb fod angen ardystio eu cais os ydynt yn cael yr elfen symudedd o’r cymorth anabledd i blant a phobl ifanc ar y gyfradd uwch. Mae'r diwygiadau i Reoliad 53, i'r graddau y maent yn ymwneud â cheisiadau am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, yn gwneud darpariaeth mewn maes sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Byddai unigolion cymwys sy'n symud o'r Alban i Gymru neu i Loegr yn parhau i dderbyn cymorth anabledd yn unol â threfn yr Alban am gyfnod o hyd at 13 wythnos o ddyddiad y symud. Effaith y Gorchymyn yw y byddai gan unigolyn sydd wedi symud i Gymru yn ddiweddar ac sy'n dal i dderbyn elfen symudedd o’r cymorth anabledd i blant a phobl ifanc ar y gyfradd uwch sy'n daladwy yn yr Alban hawl o hyd i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, heb fod angen ardystio eu cais, mewn etholiad llywodraeth leol yng Nghymru,  yn amodol ar fodloni'r holl amodau cofrestru perthnasol.

Byddai'r diwygiad yn rhoi dilyniant i unigolion ac yn caniatáu iddynt gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ar yr un sail ag y byddent wedi bod â hawl iddo pe bai eu cais newydd am fudd-daliadau sy'n daladwy yng Nghymru wedi'i brosesu ar yr adeg berthnasol. Gan y byddai hyn am gyfnod byr ac y byddai'n debygol o gael effaith gyfyngedig, cytunais felly i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â’r Gorchymyn.

Gosodwyd y Gorchymyn yn Senedd y DU ar 28 Hydref 2021.