Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Y mis diwethaf, yn dilyn y cyfnod diweddar o dywydd garw, cyhoeddais y byddwn yn comisiynu adolygiad annibynnol o gydnerthedd ein diwydiant amaethyddol.  Fy mwriad yw bod yr adolygiad hwn yn mynd i’r afael â gallu’r sector i baratoi ar gyfer digwyddiadau annisgwyl ac ymateb iddynt, ac i asesu hyfywdra hirdymor modelau busnes ffermydd. Rwyf wedi gofyn i Kevin Roberts, cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr NFU a chyn hynny Cyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn Cig a Da Byw, gyflawni’r gwaith hwn.

Dyma’r cylch gorchwyl ffurfiol a roddais i Kevin Roberts:

Asesu cydnerthedd y diwydiant amaeth yng Nghymru, gan gyfeirio’n benodol at ffermio da byw a ffermio mynydd a chynghori ynghylch materion cysylltiedig, gan gynnwys:

  • effaith yr eira mawr mewn rhannau o’r Canolbarth a  Gogledd Cymru ddiwedd mis Mawrth 2013 a chyfraniad y diwydiant, y sectorau atodol, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, elusennau ffermio ac eraill wrth ymateb i’r sefyllfa hwnnw fel roedd yn datblygu;
  • sut mae’r sectorau ffermio a sectorau atodol yng Nghymru yn rheoli risg, a’u gallu (ar y cyd ac fel busnesau unigol) i wrthsefyll digwyddiadau annisgwyl yn gyffredinol;
  • a yw modelau busnes cyfredol y prif fathau o ffermydd yng Nghymru yn gadarn a hyfyw yn yr hirdymor o ystyried heriau a chyfleoedd y presennol a’r dyfodol a’r profiad diweddar gyda’r tywydd garw; a
  • swyddogaeth y Llywodraeth ac asiantaethau eraill (ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol) wrth helpu i ddatblygu cydnerthedd o fewn y diwydiant;

a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Mae Kevin eisoes yn gwneud cynnydd da gyda’r gwaith hwn, ac wedi cwrdd â nifer o gynrychiolwyr y diwydiant er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a wynebwyd ganddynt yn ystod y tywydd drwg. Bydd yn cyflwyno ei ganfyddiadau interim i mi cyn toriad yr haf ac rwy’n disgwyl gallu trafod y rheini gyda Phwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn y Sioe Frenhinol, fis Gorffennaf. Dylai Kevin allu cyflwyno ei adroddiad terfynol i mi erbyn diwedd mis Tachwedd eleni.

I mi, mae’r adroddiad hwn yn hollbwysig i’r diwydiant ac i Lywodraeth Cymru, er mwyn helpu i gryfhau’r diwydiant amaeth yng Nghymru ar gyfer y tymor hir. Bydd yr adolygiad yn sail ar gyfer datblygu fy meddyliau ynghylch diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yng Nghymru dros y saith mlynedd nesaf, ac, yn benodol, llunio’r Cynllun Datblygu Gwledig nesaf. Rwy’n disgwyl hefyd i ganfyddiadau Kevin fwydo i mewn i’n gwaith cyffredinol ni ym maes rhannu cyfrifoldeb a chostau ac i agenda ehangach Hwyluso’r Drefn.

Bwriedir i’r adolygiad hwn o gydnerthedd ategu gwaith arall perthnasol a gomisiynwyd gen i yn ddiweddar gan gynnwys dadansoddiad Hybu Cig Cymru o effeithiau’r tywydd drwg diweddar ar y gadwyn cyflenwi cig coch yng Nghymru; prosiect i ddatblygu’r Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid ymhellach; a’r adolygiad mewnol y bydd swyddogion tîm Argyfyngau Sifil Llywodraeth Cymru yn ei gynnal o fewn y Llywodraeth. O gofio nad yw ffiniau gweinyddol bob amser yn berthnasol pan fo argyfyngau annisgwyl yn codi, rwyf hefyd wedi gofyn i Kevin ystyried dimensiwn Cymreig unrhyw faterion y byddai’n well ymdrin â nhw ar lefel Prydain neu’r Deyrnas Unedig. Trafodais  y mater o weithio traws-ffiniol yn ystod digwyddiadau annisgwyl mewn cyfarfod gyda Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn Llundain dydd Llun diwethaf, 20 Mai.

Hoffwn annog y diwydiant a chynrychiolwyr eraill i gyfrannu at yr adolygiad hwn fel ein bod, gyda’n gilydd, yn sefydlu diwydiant amaethyddol cryfach yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Byddaf yn rhoi rhagor o newyddion am waith Kevin i’r Cynulliad wrth iddo fynd rhagddo.