Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ynghyd â Gwledydd Datganoledig eraill y DU, bydd Cymru yn rhoi benthyg 20 miliwn o brofion llif unffordd COVID-19 o’n dyraniadau i Lywodraeth y DU i gefnogi’r ymateb a’r galw yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n galed i sicrhau bod adnoddau ar gael inni fel y gallwn gynnal ein hymateb i’r pandemig yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau profi, brechlynnau a chyfarpar diogelu personol (PPE). Weithiau mae hyn wedi cynnwys gweithio gyda gwledydd eraill y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd ac arbedion maint inni pan fo angen.

Fel rhan o’r trefniadau hyn, mae Cymru ar sawl achlysur yn ystod y pandemig wedi darparu cydgymorth i gefnogi’r ymateb yn y gwledydd eraill.

O ran PPE, ers dechrau mis Ebrill 2020, mae Cymru wedi rhoi 13.8 miliwn o eitemau o gydgymorth i wledydd eraill y DU ac wedi derbyn 1.4 miliwn o eitemau ar gais gan yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae pŵer prynu gwasanaethau iechyd Cymru wedi golygu ein bod wedi gallu darparu gwerth £37.5 miliwn o PPE i wledydd eraill y DU. Yn ei thro, mae Cymru wedi derbyn tua 3.3 miliwn o eitemau gan Lywodraeth y DU i ailgyflenwi stociau. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o allu cefnogi’r cais am gymorth ychwanegol yn ystod awr gyfyng Lloegr.

Mae angen ymateb byd-eang i COVID-19 ac mae Cymru wedi chwarae ei rhan i gefnogi gwledydd eraill, gan gynnwys Lloegr ond hefyd y tu hwnt, a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae hyn wedi cynnwys darparu cyflenwadau meddygol, gan gynnwys peiriannau anadlu, i gefnogi’r ymateb brys rhyngwladol i bandemig y coronafeirws yn India.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.