Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o'r dull graddol o sefydlu'r fframwaith deddfwriaethol y bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gweithredu oddi mewn iddo, rwy'n bwriadu lansio ymgynghoriad ar y set sylweddol derfynol o reoliadau cyffredinol – Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.

Mae'r ymgynghoriad technegol wyth wythnos ar y rheoliadau cyffredinol drafft yn adeiladu ar yr ymgynghoriad cynhwysfawr a gynhaliwyd ym mis Hydref 2020, a oedd yn ystyried y dull cyffredinol o ddatblygu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig, yr ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) Cymru ym mis Gorffennaf 2021 ac yn fwy diweddar Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 ym mis Tachwedd 2021.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gam nesaf y dull o ddatblygu fframwaith deddfwriaethol ehangach y Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac ar gymhwyso elfennau penodol o'r fframwaith hwnnw. Yn benodol, bydd y rheoliadau drafft yn darparu ar gyfer:

  • cymhwyso trefn perfformiad a llywodraethiant llywodraeth leol i Gyd-bwyllgorau
  • trosolwg a chraffu ar Gyd-bwyllgorau
  • ei gwneud yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau fabwysiadu rheolau sefydlog gweithdrefnol penodol
  • nifer fach o newidiadau canlyniadol ac amrywiol eraill i'r ddeddfwriaeth bresennol

Bydd y rheoliadau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft a chânt eu hystyried gan y Senedd yn yr haf.

Efallai y bydd gofyn gosod rheoliadau a gorchmynion ategol/annibynnol eraill ochr yn ochr â'r rheoliadau mwy cyffredinol, neu ar ôl i'r diwygiadau o fewn y rheoliadau cyffredinol gychwyn, er mwyn darparu'n llawn y sail ddeddfwriaethol sy'n ofynnol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ond bydd y rhain yn cael eu cadw i'r lleiafswm.

Mae'r dogfennau ymgynghori ar gael drwy'r dolenni canlynol, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.