Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddydd Mawrth 29 Rhagfyr, cyfarfu Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) mewn cyfarfod eithriadol yn dilyn y cytundeb a wnaed rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ar y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Cynhaliwyd y cyfarfod yn rhithwir ac mae’r datganiad swyddogol i’w weld yn:

https://www.gov.uk/government/publications/joint-ministerial-committee-communique-29-december-2020

Yr eitem gyntaf ar yr agenda oedd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Rhoddodd hyn gyfle i mi nodi, er fy mod yn croesawu'r ffaith bod y DU wedi osgoi sefyllfa o ddim cytundeb, fod y cytundeb y cytunwyd arno ymhell o'r berthynas economaidd agos â'r UE y mae Llywodraeth Cymru wedi'i hyrwyddo drwy gydol y negodiadau. Gan y bydd y cytundeb yn dod â newidiadau sylweddol i'n trefniadau masnachu gyda'r UE ac yn golygu bod yr economi'n llai nag y byddai wedi bod fel arall, galwais eto ar Lywodraeth y DU i roi mesurau cymorth newydd ar waith ar gyfer yr economi i helpu busnesau drwy'r cyfnod pontio.  Pwysais hefyd ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i sicrhau bod y Llywodraethau Datganoledig yn cael eu cynrychioli'n briodol yn y strwythurau y cytunwyd arnynt i weithredu'r cytundeb gan gynnwys y Cyngor Partneriaeth, y Pwyllgorau Arbenigol a’r Gweithgorau arfaethedig.

Roedd yr ail eitem ar yr agenda yn ymdrin â pharodrwydd ac â gweithredu’r cytundeb. O ran parodrwydd nodais, gan fod y cytundeb y cytunwyd arno mor agos at ddiwedd y cyfnod pontio, mai ychydig iawn o amser sydd i fusnesau a sefydliadau ddeall y cytundeb a pharatoi'n unol â hynny. Codais hefyd y risgiau sy’n cyd-ddigwydd, o ran tarfu yn ystod cyfnod pontio'r UE a'r tarfu parhaus o ganlyniad i’r pandemig Covid, ac yn benodol o ran symud nwyddau allweddol drwy lwybrau masnach allweddol gyda'r UE. Galwais eto am sicrwydd y byddai nwyddau'n cael eu dosbarthu'n deg er mwyn sicrhau bod pob un o wledydd y DU yn derbyn cyflenwadau i ddiwallu eu hanghenion penodol.

O ran gweithredu'r cytundeb, canolbwyntiodd yr eitem ar Fil Perthynas y Dyfodol. Codais fy mhryder a’m siom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael gweld y Cytuniad tan Ddydd Nadolig ac mai dim ond yn hwyr gyda’r nos ar 28 Rhagfyr yr oedd Llywodraeth y DU wedi rhannu testun drafft llawn Bil Perthynas y Dyfodol. Roedd hyn yn ei gwneud yn amhosibl asesu ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru gael dealltwriaeth glir o’r modd y bydd y Bil yn effeithio ar ein cymhwysedd. Yn y cyd-destun hwnnw, hysbysais Lywodraeth y DU y byddai'r Senedd felly’n cael ei galw'n ôl ar 30 Rhagfyr ond y byddai'n cynnal dadl gyffredinol yn hytrach na dadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar ôl i’r Senedd ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.