Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn cael ei gynnal yr wythnos hon, sef ddydd Iau 3 Medi, gyda’r cyfranogwyr yn cymryd rhan o bell. Hwn fydd trydydd cyfarfod y Cyd-bwyllgor ers i Lywodraeth Cymru gynnal y cyfarfod yng Nghaerdydd ddiwedd mis Ionawr. 

Bydd y cyfarfod yn trafod y rhaglen Fframweithiau Cyffredin, Marchnad Fewnol y DU, negodiadau rhwng y DU a’r UE a diweddariad ar faterion yn ymwneud â phontio, gan gynnwys Parodrwydd y DU, ymgysylltu, protocol Gogledd Iwerddon a deddfwriaeth. 

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ôl y cyfarfod.