Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Ar dydd Iau 16 Gorffennaf, cyfarfu Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn rhithwir am yr ail dro ac am y trydydd tro yn unig eleni.
Gellir gweld yr hysbysiad yma:
Datganiad Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE)
Dechreuodd y cyfarfod gyda diweddariad ar negodiadau’r UE gan David Frost, Prif Negodydd y DU. Rhoddodd y cyfarfod gyfle imi bwyso ar Lywodraeth y DU ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau cytundeb – a’r angen i flaenoriaethu swyddi a masnach – er mwyn osgoi dwysáu’r boen economaidd sy’n deillio o’r pandemig. Codais hefyd bwysigrwydd sicrhau bod cyn lleied â phosibl o rwystrau heblaw am dariffau o ran nwyddau a bod cymaint o fasnachu â phosibl mewn gwasanaethau. Dywedais ei bod yn bwysig hefyd, naill ai ar gyfer y DU yn gyfan neu, os bydd raid, ar gyfer Cymru yn unig, i barhau i gymryd rhan yn Rhaglenni’r UE, yn arbennig Erasmus+.
Wedi hynny, symudodd y cyfarfod ymlaen i ddilysu’r cynnydd a wnaed yn ddiweddar gyda’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol, yn arbennig o safbwynt Osgoi a Datrys Anghydfodau. Galwais am sicrhau bod y manylion yn cael eu pennu’n derfynol yn gyflym er mwyn iddo gael ei roi ar waith, ac i roi mwy o bwyslais ar yr ymdrechion ar y cynigion ar gyfer peirianwaith yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol. Byddaf yn darparu mwy o wybodaeth am yr hyn yr wyf yn eu hystyried ar hyn o bryd fel datblygiadau cadarnhaol ar Osgoi a Datrys Anghydfodau pan fydd y trafodaethau â Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau datganoledig eraill wedi dod i ben.
Ar faterion Parodrwydd, pwysais am gadarnhad y byddai manylion llawn y ddeddfwriaeth sy’n ofynnol erbyn diwedd y cyfnod pontio yn cael eu rhannu yn gyflym. Pwysleisiais, er bod rhywfaint o welliannau wedi’u gweld o safbwynt rhannu gwybodaeth ar lefel swyddogion, fod angen trafodaeth sylweddol ar lefel gweinidogol a bod hefyd angen gwneud penderfyniadau ar y cyd. Pwysais hefyd fod angen cael golwg o holl brosiectau’r DU yn gyffredinol a bod angen cael gwybodaeth am gynnydd o ran yr hyn a gyflawnwyd er mwyn sicrhau, yn hytrach na chael trosolwg o is-set o brosiectau unigol yn unig, ein bod yn gallu gweld y darlun cyflawn yng nghyd-destun Parodrwydd y DU.
Yn olaf, roedd trafodaeth ar Farchnad Fewnol y DU a Phapur Gwyn Llywodraeth y DU. Pwysleisiais fod y ffordd yr aeth Llywodraeth y DU ati i lunio’r Papur Gwyn hwn yn annerbyniol. Yn benodol, eglurais ei bod yn mynd ati mewn ffordd unochrog i gynnig darn o ddeddfwriaeth sylfaenol lawdrwm sy’n hwyluso ‘ras i’r gwaelod’ o safbwynt safonau y mae hawl gan ddefnyddwyr yng Nghymru ddisgwyl iddynt gael eu diogelu. Mae’n tanseilio ein cymhwysedd datganoledig a’r gwaith a wnaed ar y cyd cyn hyn, gwaith yr oeddem wedi cymryd rhan ynddo gydag ymddiriedaeth
Pwysleisiais unwaith eto fod angen dull cydweithredol. Dylai’r dull hwnnw ddiogelu busnesau yng Nghymru a’n safonau uchel mewn meysydd allweddol sy’n bwysig i’n dinasyddion, fel yr amgylchedd a lles anifeiliaid, ond dylai hefyd ddiogelu ein trefniadau cyfansoddiadol yn y DU.
Mynegais hefyd bryder difrifol ynglŷn â’r effaith y gallai’r Papur Gwyn ar y Farchnad Fewnol ei chael ar y rhaglen Fframweithiau Cyffredin, sydd wedi cael ei chynnal dros y tair blynedd ddiwethaf. Seiliwyd y rhaglen hon ar ddod i gytundeb rhwng y pedair Llywodraeth ar y safbwyntiau ar gyfer amrywiol feysydd polisi.
Yn olaf, anogais Lywodraeth y DU i ymwrthod â’r dull a nodwyd yn y Papur Gwyn. Bydd y dull hwn yn gwneud niwed aruthrol ar sawl lefel. Fe’i cymhellais hefyd i ystyried y dull a gynigiwyd gennym ni unwaith yn rhagor. Roedd y dull hwnnw wedi cael ei egluro mewn llythyr a anfonais at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn cyn i’r Papur Gwyn gael ei gyhoeddi. Mae copi o’r llythyr hwnnw wedi’i amgáu gyda’r Datganiad Ysgrifenedig hwn.
Nid oes dyddiad wedi’i gadarnhau ar hyn o bryd ar gyfer cynnal cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE).
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.