Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn cael ei gynnal yr wythnos hon, sef ddydd Iau 16 Gorffennaf gyda’r cyfranogwyr yn cymryd rhan o bell. Llywodraeth y DU fydd yn cadeirio. Hwn fydd ail gyfarfod y Cyd-bwyllgor ers mis Ionawr. 

Bydd y cyfarfod yn trafod y negodiadau â'r UE, yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, protocol Gogledd Iwerddon, parodrwydd ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, lansio ymgyrch gyfathrebu ar gyfer parodrwydd, deddfwriaeth, a marchnad fewnol y DU. 

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ôl y cyfarfod.