Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 28 Ionawr, cynhaliodd y Prif Weinidog a minnau Gyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yng Nghaerdydd - yr ail dro yn unig iddo gael ei gynnal y tu allan i Lundain.

Croesawodd y Prif Weinidog Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a oedd yn cymryd rhan yn eu cyfarfod cyntaf gyda’i gilydd y tu allan i Ogledd Iwerddon ers ail-sefydlu Cynulliad Gogledd Iwerddon a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Roedd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a phum Gweinidog arall o Lywodraeth y DU hefyd yn bresennol, ynghyd â Mike Russell ASA, y Gweinidog dros Fusnes y Llywodraeth a Chysylltiadau Cyfansoddiadol. Gellir gweld yr hysbysiad yn: 

Joint Ministerial Committee (EU Negotiations) communiqué: 28 January 2020 ar GOV.UK

Canolbwyntiodd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar y dewisiadau strategol o fewn a rhwng negodiadau masnach sy’n wynebu Llywodraeth y DU a rôl y Llywodraethau Datganoledig yn y negodiadau.

O ran dewisiadau strategol, pwysleisiais fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ond er mwyn gallu gwneud hynny mae angen inni weld yr wybodaeth sylfaenol sy’n cael ei hystyried ganddynt. Roedd yn destun siom i’r Prif Weinidog ac i minnau nad oedd y papurau a rannwyd cyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor wedi cael eu cynnig ar y cyd ac nad oeddent yn ymdrin yn drylwyr â’r materion sy’n codi. Pwysleisiom fod angen i Lywodraeth y DU rannu gwybodaeth am eu safbwynt a’r dystiolaeth a oedd yn sail iddo. Nodais hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl glir yn ein dogfen bolisi, Y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru, ein bod yn credu y dylai’r berthynas â’r UE yn y dyfodol gael blaenoriaeth. Roeddem yn glir hefyd ein bod yn dymuno gweld parhad o safbwynt cyfranogi o raglenni Ewropeaidd.

O ran y negodiadau, cydnabu’r Prif Weinidog sylwadau diweddar Llywodraeth y DU mewn perthynas â’i hymrwymiad parhaus i Gonfensiwn Sewel a phwysodd arni i ymestyn yr egwyddor hon i’r negodiadau sydd ar fin cael eu cynnal rhwng y DU a’r UE. Eglurodd y byddai ymrwymiad clir i gynnwys y Gweinyddiaethau Datganoledig yn cryfhau sefyllfa’r DU yn y negodiadau mewn gwirionedd. Er bod rhai cynigion wedi cael eu gwneud mewn perthynas â strwythur y negodiadau, roedd angen mwy o waith ar hyn, ac roedd angen i Lywodraeth y DU gytuno ar frys i’r egwyddor o beidio â bwrw ymlaen, fel arfer, heb gytundeb y Llywodraethau Datganoledig mewn perthynas â materion datganoledig

Pwysleisiodd y Prif Weinidog hefyd ei bod yn hanfodol gweld cynnydd cyflym yn awr ar yr Adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol. Byddem yn disgwyl gweld cynigion yr Adolygiad, yn ogystal â gwybodaeth fanylach am agwedd Llywodraeth y DU tuag at y negodiadau cyn cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion.

Cyn belled ag y bo cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran y materion hyn, rwy’n gobeithio y gall cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor gael ei gynnal yn nes ymlaen y mis yma.