Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, AC, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 9 Ionawr, mynychais Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn Whitehall. Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar rôl y Llywodraethau Datganoledig yng ngham nesaf y negodiadau gyda’r UE. Nododd Gweinidogion Llywodraeth y DU eu bod yn y broses o lunio fersiwn derfynol eu cynigion ar gyfer negodi strwythurau, a’u bod yn disgwyl y byddai hyn yn darparu eglurder ynglŷn â rôl y Llywodraethau Datganoledig.

Nododd Gweinidogion Llywodraeth y DU y gwelliannau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru i Fil y Cytundeb Ymadael, gan fy sicrhau y byddent yn cael eu hystyried yn ofalus. Pwysleisiais y byddai Llywodraeth Cymru yn argymell i Senedd Cymru na ddylai gydsynio i’r  Bil ar ei ffurf bresennol. Dywedais yn glir y byddai hon yn foment gyfansoddiadol arwyddocaol iawn ac y byddai gofyn i Lywodraeth y DU a Senedd San Steffan ystyried o ddifrif a chan ddangos parch, cyn penderfynu bwrw ymlaen pe bai Senedd Cymru wedi peidio â rhoi ei chydsyniad. 

Hefyd pwysleisiais bwysigrwydd cwblhau’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol ar frys, yn ogystal â’r angen i sefydlu cyfarfodydd rhwng Gweinidogion y pedair gwlad, a fyddai’n cynnwys pob adran bolisi berthnasol. Hefyd, codais bryderon ynghylch sut yr oedd y cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE yn y DU yn gweithredu, yn benodol gan ei bod yn ymddangos i gyfran uchel o ymgeiswyr gael statws preswylydd cyn-sefydlog yn hytrach na statws sefydlog llawn.

Rwy’n disgwyl croesawu cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) i Gaerdydd yn nes ymlaen y mis hwn, a bydd y cyfarfod hwnnw’n canolbwyntio ar lunio fersiwn derfynol y cynigion ar gyfer datrys anghydfodau fel rhan o’r Adolygiad uchod, gan ddod i gasgliadau pendant ynghylch rôl y Llywodraethau Datganoledig mewn negodiadau, yn ogystal â chynnal trafodaeth am amcanion y negodiadau.