Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf hysbysu Aelodau’r Cynulliad ein bod wedi cymryd camau pellach mewn perthynas â’n hymrwymiad maniffesto i “barhau i wella cyfleoedd ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc i chwarae’n ddiogel, ac yn arbennig i wella mynediad i gyfleoedd chwarae ar gyfer plant ag anableddau”

Ar ddiwedd mis Ionawr cytunais i a’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi y byddem yn gwneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer cychwyn adrannau 11(3) ac 11(4) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Bydd Adran 11(3) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau digon o gyfleoedd chwarae ar gyfer plant o fewn eu hardaloedd, i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, yn unol â’u hasesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae. Bydd Adran 11(4) yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Lleol gyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae o fewn eu hardaloedd a sicrhau bod yr wybodaeth hon yn parhau’n gyfredol.

Cytunwyd yn ogystal y dylai Canllawiau Statudol gael eu llunio i gyd-fynd â chychwyn yr adrannau er mwyn cynorthwyo Awdurdodau Lleol i gydymffurfio â’r ddyletswydd hon. Bydd Adran 70 o’r un Mesur hefyd yn cychwyn er mwyn dwyn i rym bwerau Gweinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau o dan y Mesur.

Bydd hyn yn cwblhau’r gwaith o gychwyn adran 11, Cyfleoedd Chwarae o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.