Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y gwaith sy’n mynd rhagddo i foderneiddio a symleiddio trefn gwynion y gwasanaethau cymdeithasol.

Rwyf am sicrhau bod proses gwynion y gwasanaethau cymdeithasol yn gyson â Gweithdrefnau Cwynion Enghreifftiol Cymru Gyfan, a ddatblygwyd gan Grŵp Cwynion Cymru, ac a fabwysiadwyd ar draws y gwasanaethau cyhoeddus ac yn benodol i fod yn unol â phroses gwynion y GIG.

Mae hyn yn flaenoriaeth allweddol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus ac roedd yn un o’r materion a godwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod Cam 1 y proses graffu ar Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Yn ei adroddiad codwyd pryderon penodol gan y Pwyllgor y dylai’r broses o ymdrin â chwynion fod yn symlach pan fydd asiantaethau niferus yn ymwneud â’r broses. Nodais wrth ymateb i’r adroddiad y byddwn yn gwneud datganiad am y materion hyn.

Y llynedd cynhaliais ymgynghoriad eang, Gwneud Pethau’n Well  ar y trefniadau presennol ar gyfer cwynion yn y gwasanaethau cymdeithasol. Roedd yr ymgynghoriad hwnnw’n cynnwys ystod eang o randdeiliaid. Un o’r prif faterion a ystyriwyd gan yr ymgynghoriad oedd sut y gellid sicrhau bod proses y gwasanaethau cymdeithasol yn fwy cyson â Pholisi Pryderon a Chwynion Enghreifftiol Cymru Gyfan a ddatblygwyd gan Grŵp Cwynion Cymru, ac yn benodol â’r broses sydd yn ei lle ar gyfer Gwneud Pethau’n Well y GIG. Roeddwn yn poeni’n benodol am wella eglurder a thryloywder y broses gyfredol a’i gwneud yn symlach i sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus gydgysylltu eu gwaith er lles y dinesydd.

Nododd yr ymgynghoriad yn glir fod y trefniadau cyfredol yn rhy gymhleth, bod Cam 3 y Panel yn ddiangen ac yn ddryslyd, ac y dylai fod cysylltiadau mwy clir rhwng gweithdrefnau gwasanaethau cymdeithasol a Gweithdrefnau Cwynion Enghreifftiol Cymru Gyfan. Nododd hefyd faterion ynghylch amserlenni a sut y caiff achwynwyr wybod am y broses gwynion.

Rwy’n bwrw ymlaen â’r materion hyn nawr o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Byddaf yn ymgynghori ar broses newydd dau gam a gaiff ei chyflwyno yn 2014. Bydd hyn yn cynnwys Rheoliadau a Chanllawiau drafft a gaiff eu cyhoeddi ar lein. Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau o fewn pythefnos. 

Mae’r Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2013 drafft yn ehangach eu sgôp na’r Rheoliadau blaenorol. Bydd y darpariaethau newydd sy’n cael eu cynnwys yn ehangu’r modd y defnyddir y broses sylwadau mewn rhai swyddogaethau a dyletswyddau penodol gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â mabwysiadu. Mae’r Rheoliadau cyfredol wedi’u gwneud cyn cychwyn y ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer y darpariaethau hyn, sef Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Caiff gwahaniaethau diangen rhwng y ddwy set o Reoliadau eu dileu lle bo’n bosibl a bydd y gofynion i greu gweithdrefnau i ddelio â naill ai sylwadau neu gwynion yr un fath. Cedwir unrhyw wahaniaethau sy’n ofynnol gan y Deddfau eu hunain. Bydd y Canllawiau’n cefnogi’r broses gyfan a byddant yn cael eu symleiddio. Rwy’n croesawu barn y rhanddeiliaid ar y materion hyn.

Yn dilyn dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad byddaf yn cyflwyno’r Rheoliadau a byddant yn cael eu gwneud o dan y weithdrefn Negyddol.

Bydd y proses newydd y bwriadaf ei chyflwyno yn gwella’n sylweddol brofiad y bobl sy’n gwneud y cwynion. Mae’n cyd-fynd ag amserlenni prosesau eraill y gwasanaeth cyhoeddus ac yn benodol y GIG. Yn gyffredinol, bydd yn symleiddio’r broses o ddelio â chwynion pan fydd asiantaethau niferus yn delio â’r cwynion. Fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, bydd gan y dinesydd yr hawl i droi at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar unrhyw gam.

Rwy’n glir ei bod yn bwysig cysoni’r broses gwasanaethau cymdeithasol yn agosach â phrosesau gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rwyf hefyd yn glir bod yn rhaid gosod y dull mwy cyffredinol hwn o weithredu o fewn cyd-destun swyddogaethau a dyletswyddau gwasanaethau cymdeithasol yn y ddeddfwriaeth sylfaenol y mae’r broses gwynion yn deillio ohoni. Hefyd, dylai’r broses newydd gydnabod bod angen cefnogaeth a chymorth ychwanegol ar bobl sy’n gwneud cwynion am wasanaethau cymdeithasol. Dyna pam rwy’n bwriadu cadw rhai gofynion penodol i wneud yn siŵr fod pobl sy’n defnyddio’r broses yn cael cynnig cymorth ac arweiniad ar y broses a gwybodaeth am eiriolaeth, ac mewn amgylchiadau penodol help i gael eiriolwr.

Gall deddfwriaeth sylfaenol bresennol ddelio â’r materion hyn i gyd.

Roedd yr ymgynghoriad Gwneud Pethau’n Well hefyd yn holi pobl ynghylch mynediad i eiriolaeth a chymorth ac a ddylai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru allu ystyried cwynion gan oedolion sy’n talu am eu gofal eu hunain.

Rwy’n bwrw ymlaen â’r materion hyn drwy Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae’r darpariaethau yn y Bil yn golygu y gellir rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu cymorth i bobl sy’n gwneud cwynion neu sylwadau. Mae hon yn ddarpariaeth newydd a gwn fod croeso iddi.

Mae’r Bil hefyd yn cynnwys y ddarpariaeth angenrheidiol i alluogi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ystyried cwynion gan oedolion sy’n talu am eu gofal eu hunain. Mae hyn yn welliant sylweddol i’r dinesydd ac yn un a fydd, yn fy marn i, yn cyfrannu at ein hamcan cyffredinol o wella gofal a chymorth i bawb.

Byddwn yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid drwy’r cyfnod ymgynghori i sicrhau ein bod yn cael y broses newydd yn iawn ac i sicrhau bod y trosglwyddo o’r broses dri cham gyfredol yn digwydd yn ddidrafferth. Edrychaf ymlaen at gyflwyno’r Rheoliadau terfynol gerbron y Cynulliad yn 2014.

Bydd yr Aelodau hefyd am wybod mai’r bwriad yw gwneud set o Reoliadau diwygio ar ôl i Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ddod i rym. Ar y cam hwnnw byddant yn rhoi ystyriaeth i’r darpariaethau newydd a nodir yn y Bil, ac a ddisgrifiais uchod.