Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ynghyd â'r diweddariad ar Genhadaeth ein Cenedl, rwyf hefyd yn cyhoeddi 'Cwricwlwm i Gymru: y daith i 2022'. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r disgwyliadau cyffredin o ran beth y mae gwireddu'r cwricwlwm yn ei olygu i ymarferwyr, ysgolion a lleoliadau o 2022. Ei nod yw helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu eu cwricwlwm.

Mae'r ddogfen wedi'i llunio ar y cyd â phartneriaid strategol gan gynnwys ymarferwyr, consortia rhanbarthol ac Estyn, ac mae'n ymateb uniongyrchol i adolygiad yr OECD a argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cynllun clir i'r system addysg ar gyfer y camau nesaf.

Rwy'n cydnabod y gallai rhai ysgolion fod yn bryderus ynghylch eu gallu i wneud cynnydd tuag at gynllunio eu cwricwlwm o ystyried yr amharu o ganlyniad i bandemig COVID-19.  Rwy'n sylweddoli'r her sy'n wynebu ein hysgolion ac er nad oes angen gweithredu ar y ddogfen disgwyliadau cyffredin ar hyn o bryd, mae'n darparu cyfeiriad clir tuag at ddiwygio'r cwricwlwm. 

Er mwyn cefnogi ysgolion ymhellach dros dymor yr hydref, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu cynllun gweithredu'r cwricwlwm. Bydd y cynllun hwn yn cyd-fynd â'r disgwyliadau cyffredin hyn ac yn nodi rolau a chyfrifoldebau gwahanol rannau'r system addysg wrth gefnogi ysgolion i symud ymlaen i wireddu'r cwricwlwm yn 2022 a thu hwnt. 

Mae'r disgwyliadau cyffredin hyn yn adlewyrchu'r ffaith y bydd ysgolion mewn gwahanol sefyllfaoedd wrth gynllunio eu cwricwlwm a'u nod yw llywio gwaith yr ysgolion waeth lle maent ar eu taith. Mae'n caniatáu i ysgolion symud ar gyflymder sy'n briodol iddynt, gan ganiatáu iddynt ymateb i heriau COVID-19 a'u cefnogi hefyd i baratoi'n fwy hirdymor ar gyfer y diwygiadau.

Mae'r disgwyliadau hyn yn annog pob ysgol i ddechrau datblygu gweledigaeth glir ar gyfer y cwricwlwm.

Mae'r 'Canllawiau ar ddysgu mewn ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref' a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf yn nodi disgwyliadau a blaenoriaethau ar gyfer dysgu dros y flwyddyn ysgol nesaf, ac yn gwyro tuag at egwyddorion y cwricwlwm newydd.

Hoffwn ailadrodd na ddylai ysgolion deimlo dan bwysau i ymateb ar unwaith yn sgil y cyhoeddiad hwn. Rwy'n llwyr gydnabod a gwerthfawrogi'r amgylchiadau heriol y mae ysgolion yn eu hwynebu. Mae cyhoeddi'r disgwyliadau hyn yn garreg filltir bwysig tuag at newid y cwricwlwm ond dim ond pan fydd eu staff a'u dysgwyr yn barod y dylai ysgolion eu defnyddio i gefnogi eu proses gynllunio.

Cwricwlwm Cymru: y daith i 2022

Cenhadaeth ein Cenedl