Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Heddiw rwy'n cyhoeddi cynllun gweithredu Cwricwlwm i Gymru. Ymrwymais i gyhoeddi'r cynllun hwn mewn ymateb i Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Datblygwyd y cynllun ar y cyd â'n partneriaid a'i fwriad yw rhoi sicrwydd a chefnogi ystyriaeth y Senedd o'r Bil Cwricwlwm ac Asesu. Mae'n nodi sut y byddwn yn cefnogi ysgolion i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a'r dulliau o gydweithio y byddwn yn parhau i'w defnyddio i gyflawni hyn. Nid wyf yn disgwyl i ysgolion weithredu ar y ddogfen hon ar hyn o bryd; ond mae’n nodi'r cymorth y gallant ei ddisgwyl yn ystod y misoedd nesaf.
Flwyddyn ar ôl cyhoeddi canllawiau Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020, rwy’n cydnabod ein bod ni yn symud ymlaen mewn cyd-destun gwahanol. Wrth i ysgolion a dysgwyr geisio adfer a dychwelyd i ddysgu llawn, gan ddatblygu eu hyder a'u sgiliau ar hyd y ffordd, gwyddom fod rhai o'r dysgwyr a’r ysgolion mwyaf agored i niwed wedi cael eu heffeithio'n anghymesur. Wrth i ni symud ymlaen at weithredu Cynllun Gweithredu'r Cwricwlwm, byddwn yn darparu'r cymorth angenrheidiol i bob ysgol allu ymgysylltu a symud ymlaen i ddiwygio'r cwricwlwm mewn ffordd deg. Mae’n bwysig i ni weithio gydag ysgolion ar gyflymder sy'n briodol iddyn nhw, yng nghyd-destun eu hadferiad nhw a’u dysgwyr. Dyna pam y mae Cynllun Gweithredu'r Cwricwlwm yn gosod amserlenni hyblyg ar gyfer y camau tuag at 2022 – mae’n rhaid i ni wrando a gweithio mewn partneriaeth â'n hysgolion a rhaid i’r ysgolion ddilyn y llwybr i 2022 sy'n iawn iddyn nhw.
Mae'r tarfu a brofwyd gan ddysgwyr eleni wedi effeithio ar sawl rhan o'r gymuned addysgol. Rydym yn dechrau o sefyllfa lle mae gan rieni, gofalwyr a chymunedau brofiadau, pryderon a blaenoriaethau amrywiol. Un o egwyddorion craidd ein Cwricwlwm newydd i Gymru yw ein bod yn ymgysylltu â'n cymunedau, rhieni a gofalwyr, a'r dysgwyr eu hunain, wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Fel y nodwyd gan Estyn yn Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd, mae'r ymgysylltu hwn rhwng ysgolion a theuluoedd wedi dwysáu a chryfhau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rwy’n bwriadu adeiladu ar hyn i ddatblygu ymhellach y ddeialog honno â rhieni a gofalwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid ehangach, er mwyn deall eu profiadau a'u blaenoriaethau ar gyfer adfer dysgu. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i archwilio elfennau allweddol y broses adfer – ac yn rhoi hynny ar waith drwy Gynllun Adfer Dysgu sy'n ein galluogi i symud ymlaen o darfu COVID-19 tuag at ddiwygio'r cwricwlwm. Bydd hyn yn canolbwyntio ar gefnogi'r dysgwyr yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan bandemig COVID-19, a'u galluogi i symud ymlaen ar hyd eu llwybr dysgu. Bydd yn parhau i bwysleisio'r angen am lesiant, y sgiliau craidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ynghyd â dysgu eang a chytbwys. Byddwn yn rhoi cynllun dysgu o bell ar waith i gefnogi hyn.
Mae angen i'n hadferiad hefyd flaenoriaethu anghenion y carfanau hynny sydd mewn blwyddyn arholiad, y mae'r tarfu wedi effeithio'n ddifrifol arnynt, a'u cynlluniau dysgu a dilyniant. Nodais yn ddiweddar ein bwriad ar gyfer y cymwysterau hyn yn 2021, a byddwn yn canolbwyntio ar y ffordd rydym am gefnogi’r dysgwyr hyn i symud ymlaen i addysg bellach neu uwch, cyflogaeth neu hyfforddiant dros y misoedd nesaf. Wrth wneud hyn byddwn yn ymgorffori ac yn symud tuag at egwyddorion a blaenoriaethau’r Cwricwlwm i Gymru – bydd Cymwysterau Cymru’n cyhoeddi eu hymgynghoriad ar y dull newydd o ymdrin â chymwysterau i bobl ifanc 16 oed yn y man, ac rwy'n rhagweld y bydd gwaith pellach ac arfer da yn dod i'r amlwg o ran asesu cymwysterau, llesiant a dilyniant yn dilyn ein profiadau yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae canllawiau ar gael ar ddisgwyliadau ar gyfer dysgu o bell i ddisgyblion sydd mewn blwyddyn arholiad eleni.
Byddwn yn cynyddu ein hymgysylltiad ag ysgolion, gan roi amser iddynt ddod at ei gilydd fel rhan o sgwrs genedlaethol i fyfyrio ar eu profiadau o bandemig COVID-19 a’u heriau wrth adfer dysgu, a sut y gallwn ddatblygu ar y cyd y dulliau gweithredu a'r gefnogaeth a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen gyda'n gilydd. Gwn na fydd ymarferwyr a dysgwyr yn gallu canolbwyntio ar ddysgu oni bai ein bod yn rhoi amser ar gyfer hyn. Ni allwn ddisgwyl i ysgolion ac ymarferwyr ddatblygu dealltwriaeth a gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd nes eu bod wedi gweithio gyda'u dysgwyr i ailffocysu eu taith ddysgu. Rhaid i hyn fod yn ymrwymiad hirdymor, i gefnogi dysgu ac i barhau i ddarparu cymorth ar gyfer gweithredu Cynllun Gweithredu'r Cwricwlwm.
Felly, rwyf hefyd yn lansio heddiw ymgynghoriad ar Ganllawiau Gwella Ysgolion anstatudol. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r fframwaith newydd ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, sy'n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r canllawiau'n egluro'r gwahaniaeth rhwng gweithgareddau gwerthuso a gwella ac atebolrwydd. Yn ystod y cyfnod adfer a thu hwnt, dylai'r rhan fwyaf o'r egni a'r ffocws yn y system fod ar wella ysgolion, a arweinir gan hunanwerthuso, cynllunio gwelliant a chymorth effeithiol ym mhob ysgol. Serch hynny, ni ddylai'r system atebolrwydd lywio gweithgarwch gwella ysgolion, er y dylai llywodraethu ac arolygu effeithiol sicrhau bod materion yn cael eu nodi a'u datrys.
Rwy'n cyhoeddi Cynllun Gweithredu'r Cwricwlwm gan wybod mai dyma'r peth iawn i'w wneud i roi sicrwydd i Aelodau'r Senedd a'n partneriaid o'n cynlluniau ac ehangder ac uchelgais ein camau gweithredu. Fodd bynnag, gwn fod ysgolion yn dal i weithio i roi’r ddarpariaeth orau i'w dysgwyr mewn amgylchiadau hynod anodd. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i ymgysylltu ag ysgolion ar gyflymder sy’n briodol iddyn nhw, er mwyn cyflwyno dysgu a dilyniant mewn ffordd sy'n gyson ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru ac yn ein rhoi yn gadarn ar y llwybr tuag at adferiad.
Mae dolen i Gynllun Gweithredu'r Cwricwlwm ar gael yma.