Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf wrth fy modd yn rhannu Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes ag aelodau. Hwn yw fy nghynllun ar gyfer symud ymlaen ag argymhellion yr Athro Graham Donaldson a ddisgrifiwyd yn Dyfodol Llwyddiannus, a dderbyniais yn llawn yn fy natganiad llafar i chi i gyd ar 30 Mehefin. Mae’r cynllun yn cael ei lansio heddiw yn y Gynhadledd Genedlaethol i Benaethiaid Ysgol.

Fy uchelgais yw y bydd ein cwricwlwm newydd yn cael ei addysgu mewn ysgolion a lleoliadau erbyn 2021. Mae Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes yn amlinellu’r amserlen lefel uchel ar gyfer cyflawni’r nod hwn. Mae’n disgrifio’r camau a gymerwn, drwy gydweithio â’r proffesiwn, i adeiladu cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru. Mae’n adeiladu ar sail y gefnogaeth a ddangoswyd drwy’r Sgwrs Fawr ac yn ymdrin yn benodol ag un o’r amcanion yn Cymwys am oes a oedd yn disgrifio ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer addysg yng Nghymru sef:

Bydd dysgwyr yng Nghymru yn mwynhau addysgu a dysgu sy’n eu hysbrydoli nhw i lwyddo, mewn cymuned addysg sy’n cydweithredu ac sy’n anelu at fod yn wych, lle mae potensial pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei ddatblygu.  

Er mwyn sicrhau’r holl fanteision sydd yn Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, ynghyd ag Addysgu Athrawon Yfory a’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg, bydd angen i bob un ohonom gymryd rhan a chydweithio. Proses gydweithredol fydd hon a bydd yn cynnwys y proffesiwn addysgu, Estyn, awdurdodau lleol, academyddion, rhieni/gofalwyr, busnesau ac ystod eang o randdeiliaid, arbenigwyr a grwpiau eraill. Er mwyn mynd â’r maen i’r wal, bydd angen i ni sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng gweithredu buan fel y bydd y cwricwlwm newydd ar gael cyn gynted â phosibl, a’n hawydd i ddatblygu’r cwricwlwm newydd mewn partneriaeth ag ysgolion a phartneriaid eraill.  

Bydd ein cwricwlwm newydd yn gwricwlwm i holl blant a phobl ifanc Cymru, a bydd wedi’i seilio ar y pedwar diben. Wrth i ni symud ymlaen gyda’n gilydd, bydd y broses o ddatblygu’r cwricwlwm newydd:

  • yn dilyn y dystiolaeth
  • yn seiliedig ar sybsidiaredd
  • yn uchelgeisiol a chynhwysol
  • o dan reolaeth ac yn gyflym, brwdfrydig a phroffesiynol
  • yn unedig
Bydd y Rhwydwaith Ysgolion Arloesol yn y rheng flaen wrth gynllunio’r cwricwlwm a threfniadau asesu newydd a chaiff gyngor a chymorth gan arbenigwyr. Bydd yn gweithio o fewn Partneriaeth Cymru Gyfan a fydd yn cynnwys arbenigwyr ar y cwricwlwm ac asesu, a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys Estyn.

Bydd Ysgolion Arloesol yn gweithio gyda’u clystyrau ysgolion a rhwydweithiau ehangach ac eraill, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion, lleoliadau nas cynhelir a cholegau addysg bellach i sicrhau bod cynifer â phosibl o ddarparwyr dysgu’n cymryd rhan yn y broses cynllunio a datblygu. Byddant yn rhannu eu barn, yn rhoi prawf ar syniadau ac yn rhoi diweddariadau iddynt am y datblygiadau wrth adeiladu’r cwricwlwm a’r fframwaith asesu. Bydd prosesau cadarn ar gyfer sicrhau ansawdd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau ein bod yn gwireddu ein huchelgais i ddatblygu cwricwlwm o’r radd flaenaf.

Mae Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes yn disgrifio’r camau y bydd angen eu cymryd a’r amserlen ar gyfer hynny, a’r rolau a fydd gan bawb sy’n gysylltiedig. Ni fydd y cynllun yn ddigyfnewid: byddwn yn ei newid a’i ddiwygio yn ôl yr angen drwy gydol y broses ddatblygu a byddwn yn rhoi diweddariadau i chi am y cynnydd ar y cynllun.
Er mwyn i’r trefniadau newydd lwyddo, rhaid iddynt gael eu gweithredu’n dda ar lefel yr ystafell ddosbarth ym mhob ysgol a lleoliad yng Nghymru. Byddwn yn adeiladu ar yr hyn sy’n llwyddo eisoes ac yn cynorthwyo ymarferwyr i feithrin eu sgiliau addysgegol drwy drawsnewid Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon fel y disgrifiwyd yn Addysgu Athrawon Yfory a chefnogi datblygiad proffesiynol ymarferwyr ac arweinwyr drwy’r Fargen Newydd.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous a heriol wrth i Gymru gamu ymlaen ar ddiwygio’r cwricwlwm.  Mae gennym dasg uchelgeisiol. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â phawb sy’n gysylltiedig i sicrhau bod yr argymhellion yn Dyfodol Llwyddiannus yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus i’n helpu i gyrraedd ein nodau o sicrhau gwell dysgu a safonau uwch i bobl ifanc Cymru.